Fel rhan o’r Bwrdd Gwasanaethau Plant Integredig Rhanbarthol, crëwyd Fframwaith Iechyd, Lles a Gwytnwch Emosiynol. Cafodd ei ddatblygu er mwyn canolbwyntio’n fawr ar ‘beth’ allwn ei wneud i gefnogi plant a phobl ifanc, gan adael ‘sut’ y gallwn ei gyflawni i’r unigolyn, oedolyn dibynadwy neu wasanaethau cymorth perthnasol.
Cafodd y fframwaith ei ddylunio’n wreiddiol er mwyn helpu i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc 0 – 18 oed a hyrwyddo gwaith amlasiantaethol/budd-ddeiliaid, er mwyn sicrhau bod anghenion iechyd emosiynol plant a phobl ifanc yn cael eu diwallu’n gyson, waeth pa wasanaeth mae’r unigolyn yn dewis ymgysylltu â nhw am gymorth.
Defnyddiwyd themâu allweddol y Pum Awgrym Llesol (Bod yn Fywiog, Parhau i Ddysgu, Cysylltu, Cymryd Sylw, Rhoi) i grwpio elfennau’r fframwaith er mwyn dangos y gwaith meddwl a thrafod sydd wedi datblygu strwythur y fframwaith. Cafodd ei rannu’n ôl yr ystodau oedran canlynol, er mwyn dangos sut mae modd i’r plentyn neu berson ifanc ddatblygu eu gwytnwch dros amser:
- 0 to 3 oed
- 4 to 7 oed
- 8 to 11 oed
- 12 to 15 oed
- 16 to 18 oed
Mae’r fframwaith yn cynnwys themâu allweddol, a gefnogir gan ‘ddatganiadau dwi’n gallu’ addas o ran oedran i blant a phobl ifanc, ynghyd â datganiadau gwasanaethau cymorth ac oedolion dibynadwy. Wedi’u cyfuno, mae’r rhain yn creu adnodd holistaidd y gellir ei ddefnyddio i gefnogi datblygiad gwasanaeth a chyflenwi mewn modd aml-asiantaethol. Wrth symud ymlaen, y gobaith yw y bydd y Fframwaith Iechyd, Lles a Gwytnwch Emosiynol yn darparu dulliau ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc o ran eu datblygiad a darparu’r adnoddau a’r syniadau sydd eu hangen ar y rhai sy’n eu cefnogi i ddiwallu eu hanghenion. Gobeithiwn ei fod yn adnodd defnyddiol i’ch helpu i ddiwallu anghenion iechyd a lles emosiynol plant a phobl ifanc.