• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Y bobl rydyn ni’n eu cefnogi >
      • Pobl gydag anableddau dysgu
      • Gofalwyr di-dâl
      • Pobl sy’n byw gyda dementia
      • Plant a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth
      • Pobl gydag anghenion emosiynol ac iechyd meddwl
    • Sut rydyn ni’n gweithio >
      • Comisiynu
      • Gweithlu
      • Diogelu
      • Fforwm gwerth cymdeithasol
      • Digidol, data a thechnoleg
      • Mwy na geiriau
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Plant a phobl ifanc / Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Plant

Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Plant

Sefydlwyd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Plant ym mis Mawrth 2022 i edrych yn benodol ar faterion sy’n effeithio ar blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Ngogledd Cymru

Rydym yn gyfrifol am amrywiaeth eang o faterion sy’n wynebu gwahanol grwpiau oedran, o fabanod i oedolion ifanc. Mae ein blaenoriaethau’n cynnwys iechyd meddwl plant, plant anabl, pobl ifanc sy’n derbyn gofal gan eu hawdurdod lleol ac atal trais yn erbyn plant. I fynd i’r afael â’r rhain gallwn dynnu ar amrywiaeth o brofiadau gan fod ein grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o ofal cymdeithasol plant, iechyd, addysg a’r heddlu.

Bob dau neu dri chyfarfod mae’r bwrdd yn cwrdd yn bersonol ar gyfer sesiwn ddatblygu, ac rydym yn rhannu’r hyn a drafodwyd gennym ar ein blog. Gallwch ddarllen am y cyfarfodydd diweddaraf drwy ddilyn y dolenni isod.

  • Mai 2024: Canolbwyntio ar blant a phobl ifanc: y blynyddoedd cynnar
  • Chwefror 2024: Canolbwyntio ar niwroddatblygu

Datganiad Cenhadaeth

Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Plant Gogledd Cymru

  • gwneud yr hyn sy’n bwysig i blant a’u teuluoedd
  • cydweithredu a gweithio gyda’n gilydd
  • dangos arweinyddiaeth.
  • galluogi newid mewn sefydliadau

Gwerthoedd ac egwyddorion arweiniol

Mae’n bwysig i’r grŵp fod y Bwrdd Partneriaeth Plant Rhanbarthol yn:

  • gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
  • yn cydweithio gan feithrin diwylliant cydweithredol
  • yn gynhwysol, gan ddod â phawb sy’n gweithio i gefnogi pobl ifanc at ei gilydd.
  • yn cyfathrebu’n glir ac yn agored.
  • yn sicrhau mai budd y plentyn sydd wrth wraidd yr hyn y mae’n ei wneud bob amser

Mae ein holl waith yn seiliedig ar hawliau plant fel y’u pennir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae’r hawliau hyn yn cynnwys yr hawl i addysg, iechyd, cyfleoedd chwarae a hamdden, cymryd rhan mewn penderfyniadau amdanyn nhw eu hunain a bod yn ddiogel.

Rydym yn defnyddio egwyddorion arweiniol fframwaith NYTH  ar gyfer gwella iechyd meddwl a lles.  Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod oedolion y mae’r plentyn yn ymddiried ynddynt, y rhai hynny sydd agosaf at y plentyn, yn cael mynediad rhwydd at yr arbenigedd a fydd yn eu cefnogi nhw i ‘ddal gafael’ ar blant lle bynnag bosib yn lle ‘atgyfeirio ymlaen’. A lle bo angen cefnogaeth fwy arbenigol, rydym eisiau sicrhau nad oes unrhyw ‘ddrws anghywir’. Bydd plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn cael eu cynnwys yn ein ffyrdd newydd o weithio a fydd yn seiliedig ar yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw, gyda’u lles yn cael ei gefnogi ar draws addysg a thrwy gymunedau diogel a chefnogol.

Y Drws Cywir

Y Drws Cywir yw ein cynllun ar gyfer gwireddu’r egwyddor o ‘ddim drws anghywir’ i blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Ngogledd Cymru. Lle bynnag yr ewch i chwilio am gefnogaeth –  yr ysgol, gwasanaeth cymunedol, gwasanaeth cymdeithasol neu wasanaeth iechyd, byddwch yn cael cymorth.

Tudalennau cysylltiedig

Plant a phobl ifanc

Primary Sidebar

Negeseuon Diweddar

Lansiad Eisteddfod ar gyfer adnoddau newydd i gynorthwyo plant a theuluoedd yng Ngogledd Cymru

Adroddiad Blynyddol Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru 2024–2025: Diogelu yw busnes pawb

2025 Eisteddfod Genedlaethol – Dewch i’n helpu ni i’ch helpu chi!

  • Ymwelwch â stondin Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025
  • Gogledd Cymru yn Dathlu Wythnos Anableddau Dysgu gyda Her Heicio a Beicio
  • Mae ymarfer gwell yn dechrau yma ac mae’n haws nag yr ydych chi’n meddwl

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni

Bluesky: @hcargc.bsky.social


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

Copyright © 2025 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital