Mae adrodd straeon yn helpu i fynd at wraidd yr hyn sy’n bwysig i bobl sy’n derbyn gwasanaethau. Gellir ei ddefnyddio i ddysgu am brosiectau ac i’w gwerthuso, gwella dealltwriaeth ehangach o wasanaethau, eu hygyrchedd, ac annog archwiliad dyfnach a mwy ystyrlon o ofal cymdeithasol i lywio ein cynllunio.
Roeddwn mewn cyfarfod gwaith yn ddiweddar; roedd dyn yn tywallt coffi wrth fy ymyl. “Ydi hwnna’n acen Lerpwl?” gofynnodd. Aethom ati i sgwrsio, a dywedodd wrthyf ei fod unwaith wedi cael siop ger lle roeddwn i’n arfer byw.
Pan ddywedodd enw’r siop, daeth llif o atgofion yn ôl o’m plentyndod. Mae’n artist, ac roeddwn yn ymweld â’i siop yn aml i edrych ar ei baentiadau o Lerpwl. Byddwn yn tynnu llawes fy mam bob tro roeddem mewn lle roeddwn yn ei adnabod o’i baentiadau. “Rydym yn y llun!” byddwn yn dweud.
Yn ystod y cyfarfod, dysgais ei fod yn ofalwr di-dâl i’w wraig sy’n byw gyda dementia. Trwy wrando ar bobl yn siarad am eu profiadau, roeddwn yn gwybod bod pethau’n anodd, ond drwy ddatblygu cysylltiad cryf, roedden nhw wedi dod o hyd i gryfder, cysur a chefnogaeth. “Mae fel ein bod ni i gyd yn yr un cwch nad ydym am fod arno – rydyn ni fel teulu’n gilydd.”
Ar ddiwedd y sesiwn, daeth yr artist ataf. “Beth wyt ti’n ei wneud nawr?” gofynnodd. Hanner awr yn ddiweddarach, roeddwn yn ei ystafell fyw yn edrych ar ei baentiadau gwreiddiol. Roedd mor falch. “Rwyt ti wedi gwneud fy niwrnod,” meddai. “Rwyt ti wedi gwneud fy un i hefyd,” atebais.
Efallai mai stori fer yw hon, ond mae cymaint o themâu lles i fyfyrio ac archwilio sy’n rhoi cipolwg ar yr hyn sy’n bwysig i bobl – perthyn, lle, balchder, cymuned a chysylltiadau.
Os hoffech ddarganfod mwy am adrodd straeon ar gyfer lles, hyrwyddo neu werthuso, mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi lansio fframwaith newydd sbon sy’n llawn dulliau a thechnegau wedi’u seilio ar dystiolaeth. Gall hyn roi ysbrydoliaeth i chi ddechrau neu ddatblygu’r defnydd o adrodd straeon mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys sut i fyfyrio ar straeon a’u deall.
Fframwaith adrodd straeon ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru
