Rydym yn gyffrous i rannu ein bod yn cynllunio Arddangosfa Gofal Cymdeithasol Digidol Gogledd Cymru! Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Mercher 5 Mawrth 2025 yn Venue Cymru, Llandudno. Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi cyfle i bobl sy’n defnyddio a darparu gofal cymdeithasol ddarganfod a rhoi cynnig ar dechnoleg ddigidol a all eu helpu i fyw eu bywydau i’r eithaf.
Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid a sefydliadau anhygoel i wneud i’r digwyddiad hwn ddigwydd. Mae cyfleoedd nawdd ar gael, ac mae’r holl wybodaeth yn y llyfryn isod.
Mae cofrestru yn agor ym mis Tachwedd 2024, ond gallwch gofrestru eich diddordeb a chael diweddariadau trwy gofrestru heddiw.
Rydym yn falch iawn o’ch gweld chi yno!
