• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Y bobl rydyn ni’n eu cefnogi >
      • Pobl gydag anableddau dysgu
      • Gofalwyr di-dâl
      • Pobl sy’n byw gyda dementia
      • Plant a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth
      • Pobl gydag anghenion emosiynol ac iechyd meddwl
    • Sut rydyn ni’n gweithio >
      • Comisiynu
      • Gweithlu
      • Diogelu
      • Fforwm gwerth cymdeithasol
      • Digidol, data a thechnoleg
      • Mwy na geiriau
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Arddangosfa Gofal Cymdeithasol Digidol / Arddangosfa Gofal Cymdeithasol Digidol Gwahoddiad i bobl sy’n defnyddio gofal cymdeithasol, a’u ffrindiau a’u teulu

Arddangosfa Gofal Cymdeithasol Digidol Gwahoddiad i bobl sy’n defnyddio gofal cymdeithasol, a’u ffrindiau a’u teulu

04/02/2025

5 Mawrth 2025

Am y rhan fwyaf o’r diwrnod, bydd yr arddangosfa yn canolbwyntio ar helpu gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i ddysgu sut i ddefnyddio technoleg i gefnogi’r bobl y maent yn gofalu amdanynt yn well. Ond gan ddechrau am 1:30pm, rydym yn agor yr arddangosfa i bawb, gan gynnwys pobl sy’n defnyddio gofal cymdeithasol a’u teuluoedd!

Mae hwn yn gyfle gwych i archwilio sut y gall technoleg helpu i wneud tasgau bob dydd yn haws, fel apiau sy’n eich atgoffa i gymryd eich meddyginiaeth, neu declynnau cartref craff sy’n rheoli’ch goleuadau a’ch gwres. Byddwn yn cynnal sgyrsiau a gweithgareddau ymarferol drwy gydol y prynhawn, bydd y rhain ar gyfer pobl ag anableddau dysgu, problemau symudedd, pobl hŷn ac unrhyw un a allai fod angen cymorth.

Ar ôl y sgyrsiau, mae croeso i chi grwydro trwy ein neuadd arddangos, lle gallwch chi sgwrsio â chwmnïau am eu cynhyrchion. Byddwch hyd yn oed yn cael cyfle i roi cynnig ar bethau fel apiau, clustffonau rhith-realiti, a mwy!

Beth os byddaf yn dod o hyd i rywbeth a allai fy helpu?

Os gwelwch rywbeth a allai wneud bywyd ychydig yn haws, efallai y gallwch chi ddechrau ei ddefnyddio ar unwaith. Er enghraifft, efallai y byddwch chi’n darganfod rhai apiau defnyddiol y gallwch eu lawr lwytho am ddim neu am gost isel i’ch ffôn clyfar.

Gallech hefyd edrych ar rai teclynnau y gallwch eu prynu eich hun, fel technoleg gartref craff a all helpu i wneud pethau’n haws o amgylch y tŷ.

Hoffem hefyd gael eich adborth ar feddalwedd a theclynnau newydd posibl y bydd cynghorau yn penderfynu buddsoddi ynddynt yn y dyfodol.

Dywedwch wrthym os ydych am fynychu’r sgyrsiau a’r gweithgareddau

Ffoniwch Natalie ar 01824 712530 neu e-bostiwch nwrich@sirddinbych.gov.uk

Rhowch wybod i ni os oes angen gwybodaeth arnoch mewn fformat arall neu os oes gennych unrhyw anghenion eraill.

I ymweld â’r neuadd arddangos, dewch draw ar ôl 1.30pm ar y diwrnod.

Mwy o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad i bobl sy’n cynllunio ac yn darparu gofal cymdeithasol, ewch i’n gwefan: Arddangosfa Gofal Cymdeithasol Digidol Gogledd Cymru 2025

Fersiwn Hawdd ei Ddarllen y Gwahoddiad Arddangosfa Digidol PDF

Ffeiliwyd dan: Arddangosfa Gofal Cymdeithasol Digidol, Blog

Gofalwn Cymru WeCare Wales

Primary Sidebar

Negeseuon Diweddar

Cynrychiolydd Gofalwyr BPRh

Arddangosfa ddigidol: yr hyn a ddysgwyd gennym

Arganddosfa Gofal Cymdeithasol Digidol Gogledd Cymru 2025

  • Cynllun Cymunedau sy’n Deall Dementia Gogledd Cymru
  • Llwybr Cymorth Cof Gogledd Cymru – pa gymorth sydd ar gael?
  • Gwobrau Cyfranogiad Cymdeithas Alzheimer – Llwybr Cymorth Cof Gogledd Cymru 2024

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni

Bluesky: @hcargc.bsky.social


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

Copyright © 2025 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital