• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Y bobl rydyn ni’n eu cefnogi >
      • Pobl gydag anableddau dysgu
      • Gofalwyr di-dâl
      • Pobl sy’n byw gyda dementia
      • Plant a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth
      • Pobl gydag anghenion emosiynol ac iechyd meddwl
    • Sut rydyn ni’n gweithio >
      • Comisiynu
      • Gweithlu
      • Diogelu
      • Fforwm gwerth cymdeithasol
      • Digidol, data a thechnoleg
      • Mwy na geiriau
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Blog / Anabledd dysgu / Canolbwyntio ar niwroddatblygiad

Canolbwyntio ar niwroddatblygiad

31/10/2023

Fe hoffai Bwrdd Partneriaeth Plant Gogledd Cymru glywed gan unrhyw un sy’n ymwneud â chefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd sydd â chyflyrau niwroddatblygiadol am yr hyn sy’n gweithio’n dda a’r hyn y gellid ei wella.  Mae cyflyrau niwroddatblygiadol yn cynnwys Awtistiaeth, ADHD, Dyslecsia, Dyspracsia, neu Tourette’s a thiciau.

Yn benodol, fe hoffem ddysgu pa gefnogaeth fyddai’n fwyaf defnyddiol cyn cael diagnosis, yn cynnwys cyn a thra eich bod ar restr aros am ddiagnosis.  Rydym ni’n arbennig o awyddus i glywed barn plant, pobl ifanc a theuluoedd sydd â phrofiad bywyd, sydd eisoes wedi cael eu rhannu gyda chi, fel nad ydym yn gofyn iddynt ailadrodd eu straeon pan nad oes angen iddynt wneud hynny. 

Pa straeon i’w cynnwys:

  • Straeon o Ogledd Cymru.
  • Straeon am blant a phobl ifanc 0 i 25 oed. Fe allai hyn gynnwys straeon gan blant a phobl ifanc eu hunain, gan yr oedolion yn eu bywydau neu gan oedolion am eu profiadau nhw pan oeddynt yn blant.
  • Straeon am bethau a weithiodd yn dda, pethau aeth o’u lle ac unrhyw beth yn y canol.

Fe allant fod mewn unrhyw fformat, yn cynnwys straeon ysgrifenedig, astudiaethau achos, fideos neu adroddiadau ffurfiol.  Cofiwch gael caniatâd cyn rhannu straeon pobl eraill.

Fe fyddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth yma i helpu i lywio trafodaeth rhwng ystod o bartneriaid gofal cymdeithasol i blant, iechyd, addysg a’r heddlu ynglŷn â sut i gefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd yn well yng Ngogledd Cymru. 

Sut mae cymryd rhan

E-bostiwch nwrich@denbighshire.gov.uk gydag:

  • unrhyw wybodaeth yr hoffech ei gyflwyno erbyn dydd Gwener 1 Rhagfyr 2023 a/neu
  • gadewch i ni wybod eich manylion cysylltu os hoffech chi fod yn rhan o drafodaethau yn y dyfodol am y testun yma. 

Amdanom ni

Mae Bwrdd Partneriaeth Plant Gogledd Cymru yn is-grŵp o Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru sydd yn edrych yn benodol ar faterion sydd yn effeithio ar blant, pobl ifanc, a theuluoedd.  Mae ein blaenoriaethau’n cynnwys iechyd meddwl plant, plant anabl, pobl ifanc sy’n derbyn gofal gan eu hawdurdod lleol ac atal trais yn erbyn plant. Mae’r bwrdd yn cynnwys cynrychiolwyr o blith gofal cymdeithasol plant, iechyd, addysg a’r heddlu.

Ffeiliwyd dan: Anabledd dysgu, Blog, Digwyddiadau Anabledd Dysgu, Plant a phobl ifanc Tagged With: ADCG, ADD, anhwylder cydlyniad datblygiadol, anhwylder diffyg canolbwyntio, anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, arddegau, ASC, ASD, Asperger, awtistiaeth, awtistig, bachgen, bachgendod, bechgyn, cyn arddegau, DCD, diffyg canolbwyntio, Dyslecsia, dyspracsia, glasoed, ieuanc, ieuenctid, ifanc, llanc, merch, merched, Newroddatblygiad newroddatblygiad, Niwroddargyfeiriol, oed ysgol, oedolion ifanc, oedolyn ifanc, person ifanc, person yn ei arddegau, plant, plant ysgol, plentyn, plentyn ysgol, pobl ifanc

Gofalwn Cymru WeCare Wales

Primary Sidebar

Negeseuon Diweddar

Gogledd Cymru yn Dathlu Wythnos Anableddau Dysgu gyda Her Heicio a Beicio

Mae ymarfer gwell yn dechrau yma ac mae’n haws nag yr ydych chi’n meddwl

Wythnos Gofalwyr 2025

  • Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd: Digwyddiadau cerdded a beicio i ddathlu’r Wythnos Ymwybyddiaeth o Anableddau Dysgu
  • Ymweliad y Tîm Cyfalaf ag Ynys Môn
  • Gwasanaethau yng Ngogledd Cymru yn uno i lansio adnodd cymorth dementia newydd

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni

Bluesky: @hcargc.bsky.social


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

Copyright © 2025 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital