• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Y bobl rydyn ni’n eu cefnogi >
      • Pobl gydag anableddau dysgu
      • Gofalwyr di-dâl
      • Pobl sy’n byw gyda dementia
      • Plant a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth
      • Pobl gydag anghenion emosiynol ac iechyd meddwl
    • Sut rydyn ni’n gweithio >
      • Comisiynu
      • Gweithlu
      • Diogelu
      • Fforwm gwerth cymdeithasol
      • Digidol, data a thechnoleg
      • Mwy na geiriau
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Arddangosfa Gofal Cymdeithasol Digidol / Creu digwyddiad sy’n addas i bawb

Creu digwyddiad sy’n addas i bawb

04/12/2024

Rydym i gyd yn defnyddio technoleg mewn ffyrdd gwahanol. Mae rhai pobl yn hoff o bob teclyn newydd tra byddai’n well gan eraill gael sgwrs wrth siopa na cheisio defnyddio peiriant hunanwasanaeth.

Daeth y syniad ar gyfer y sioe gofal cymdeithasol digidol gan bobl sy’n angerddol dros y manteision y gall technolegau newydd eu cyflwyno i fywydau pobl. Ond er mwyn cynnal digwyddiad defnyddiol iawn mae angen i ni ddeall beth mae ystod wahanol o bobl yn ei feddwl, gan gynnwys y rhai sy’n amheus!

I wneud hyn, rydym yn siarad gyda grwpiau gwahanol ynglŷn â beth fyddai’n gwneud y digwyddiad yn ddefnyddiol iddyn nhw. Rydym wedi cael sgyrsiau gwych hyd yma, a diolch i Fwrdd Prosiect Anableddau Dysgu Gogledd Cymru, y Bwrdd Gweithlu, y Bwrdd Comisiynu, Grŵp Technolegau Cynorthwyol Gofal Cymdeithasol a’r Rhwydwaith Arloesi Rhanbarthol, am roi amser i ni yn eich cyfarfodydd.

Rydym wedi dysgu pa mor fuddiol oedd technoleg i bobl gadw mewn cysylltiad yn ystod y cyfnodau clo a sut y gall helpu i roi mwy o reolaeth i ni dros ein bywydau ein hunain. Ond hefyd, bod pryderon dilys pan fo technoleg yn cymryd drosodd gan bobl y gallwn golli cyfle ar gyfer cysylltiad cymdeithasol. Gobeithiwn y bydd y digwyddiad yn gyfle i ni ddysgu gyda’n gilydd ynglŷn â’r ffyrdd gorau o wneud i dechnoleg weithio i ni.

Byddem wrth ein boddau’n siarad gyda mwy o grwpiau ynglŷn â’ch profiadau o ddefnyddio technoleg mewn gofal cymdeithasol i’n helpu i gynllunio digwyddiad defnyddiol a hygyrch. Os hoffech gymryd rhan neu rydych yn fodlon i ni siarad gyda’ch grŵp, cysylltwch â ni ar nwrich@denbighshire.gov.uk. Edrychwn ymlaen at glywed gennych!

Darllenwch fwy ar ein gwefan Sioe Arddangos Gofal Cymdeithasol Digidol Gogledd Cymru.

5 Mawrth 2025

Venue Cymru, Llandudno

Ffeiliwyd dan: Arddangosfa Gofal Cymdeithasol Digidol Tagged With: Ar-lein, Digidol, dyfais, dyfeisiau, electroneg, electronig, i-pad, ipad, llechen, rhithiol, sgrin cyffwrdd, technoleg, yn rhithiol

Gofalwn Cymru WeCare Wales

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni

Bluesky: @hcargc.bsky.social


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

Copyright © 2026 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital

Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi ar ein gwefan.
Gallwch ddysgu mwy am ba gwcis rydym yn eu defnyddio neu eu diffodd yn y .

North Wales Collaborative
Wedi'i bweru gan  GDPR Cookie Compliance
Trosolwg preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn i ni allu rhoi'r profiad defnyddiwr gorau posibl i chi. Mae gwybodaeth cwcis yn cael ei storio yn eich porwr ac yn cyflawni swyddogaethau fel eich adnabod pan fyddwch chi'n dychwelyd i'n gwefan a helpu ein tîm i ddeall pa adrannau o'r wefan rydych chi'n eu cael fwyaf diddorol a defnyddiol.

Strictly Necessary Cookies

Dylai Cwcis Cwbl Angenrheidiol fod wedi'u galluogi bob amser fel y gallwn gadw eich dewisiadau ar gyfer gosodiadau cwcis.

Cwcis Trydydd Parti

Mae'r wefan hon yn defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth ddienw fel nifer yr ymwelwyr â'r safle, a'r tudalennau mwyaf poblogaidd.

Mae cadw'r cwci hwn wedi'i alluogi yn ein helpu i wella ein gwefan.