
Cydweithio i sicrhau iechyd a lles pobl o bob oed yng Ngogledd Cymru.
Sefydlwyd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru i fodloni Rhan 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae’r Bwrdd yn cydweithio â phartneriaid i gefnogi lles pobl o bob oed ar hyd a lled gogledd Cymru. Mae’r partneriaid yn cynnwys y chwe awdurdod lleol yng ngogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a phartneriaid statudol a gwirfoddol eraill, gan gynnwys y gwasanaeth tai, yr heddlu a’r gwasanaeth tân. Mae’r Bwrdd yn goruchwylio’r gwaith o gynllunio ac integreiddio gwasanaethau i sicrhau bod gofal a chymorth effeithiol ar gael i fodloni anghenion y boblogaeth.
Mae rhagor o wybodaeth am y Bwrdd gan gynnwys aelodaeth, adroddiad blynyddol a chofnodion ar gael isod.
I gael rhagor o wybodaeth am ddarparu gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd yn eich ardal, gan gynnwys ceisiadau rhyddid gwybodaeth, cysylltwch â’ch awdurdod lleol neu’ch Bwrdd Iechyd yn uniongyrchol.
Lawrlwythiadau
Cynllun Rhanbarthol Gogledd Cymru
Cofnodion Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
Cysylltwch â ni
Cadeirydd: Cyng Dilwyn Morgan
E-bost: cydweithredfagogleddcymru@sirddinbych.gov.uk
Ffôn: 01824 712432