Mae Rhaglen Gyfalaf Gogledd Cymru wedi’i gefnogi gan gyllid Llywodraeth Cymru. Gellir gweld mwy o wybodaeth ar gyllid isod.
Contents
1. Cynllun Cyfalaf Strategol 10 Mlynedd Gogledd Cymru
Cafodd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru (y cyfeirir ato fel ‘BPRhGC’ neu ‘ni’ trwy gydol y ddogfen hon), ynghyd â’r chwe Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol arall yng Nghymru, y dasg gan Lywodraeth Cymru yn 2022 o ddatblygu a gweithredu Cynllun Cyfalaf Strategol ar gyfer Gogledd Cymru.
Mae’r Cynllun Cyfalaf Strategol yn adlewyrchu gweledigaeth 10 mlynedd o anghenion buddsoddi cyfalaf yng Ngogledd Cymru er mwyn cefnogi darpariaeth gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Gallwch ddarllen Cynllun Cyfalaf Strategol 10 Mlynedd Gogledd Cymru yma:

2. Y bobl rydym yn eu cefnogi
Mae Cynllun Cyfalaf Strategol 10 Mlynedd Gogledd Cymru yn cefnogi ystod o ddemograffeg ar draws y rhanbarth, gan gynnwys:
- plant a phobl ifanc
- pobl hŷn
- pobl ag anableddau corfforol
- pobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth
- pobl â phroblemau iechyd meddwl
- pobl â nam ar y synhwyrau
- gofalwyr sydd angen cefnogaeth
- merched sydd yn dioddef trais a cham-drin domestig
3. Y bobl rydym yn gweithio â nhw
Mae’r rhaglen gyfalaf wedi’i gefnogi gan gyllid Llywodraeth Cymru. Gellir gweld gwybodaeth ar y ffynonellau cyllido o dan benawdau cynnwys 6, 7 ac 8.
Mae BPRhGC yn cydweithio’n agos gyda’i holl sefydliadau partner cyfansoddol. Gallwch weld rhestr o’n partneriaid allweddol isod:

4. Cynlluniau wedi’u Cwblhau
Bwthyn y Ddôl

Mae Bwthyn y Ddôl yn ganolfan asesu newydd ar gyfer plant a theuluoedd gydag anghenion cymhleth, gan gadw plant yn agos at adref, ysgol, teulu, ffrindiau a rhwydweithiau cefnogi.
Mae’r ganolfan yn galluogi gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol i gydweithio, mewn un lleoliad, ar y cyd â phlant a theuluoedd i wella eu hiechyd a lles.
Sylva Gardens

Mae Sylva Gardens yn gartref plant cofrestredig ar gyfer 3 o blant gydag anableddau dysgu. Mae’r cartref yn cynnwys 3 rhandy, gyda phob un yn lletya 1 person ifanc ac ystafell cysgu i mewn ar gyfer gofalwr.
Cwblhawyd y cartref yn Chwefror 2025 ac fe’i cofrestrwyd ym Mai 2025. Symudodd y person ifanc cyntaf i mewn ar 20 Mai 2025.
Mae’r cartref yn darparu gofal ar gyfer plant yn agosach at adref a’r bwriad yw bod yn gartref am oes ar gyfer y 3 person ifanc os ydynt yn dymuno aros.
Tŷ Croes Atti

Mae Tŷ Croes Atti yn gartref gofal preswyl i bobl hŷn gyda gwasanaethau iechyd integredig yn y Fflint, Sir y Fflint.
Bydd y cartref newydd yn cael ei reoli gan Gyngor Sir y Fflint fel un o dri chartref gofal preswyl mewnol a bydd yn darparu adeilad modern a mwy yn lle’r Cartref Gofal Croes Atti presennol, sydd hefyd yn y Fflint. Cynllunnir i’r cartref fod yn weithredol yn haf 2025.
5. Schemes in construction
Coed y Ddraig

Mae Coed y Ddraig yn ganolbwynt gwasanaeth integredig yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint.
Wedi’i leoli mewn lleoliad coetir gwledig, ychydig funudau o gerdded o ganol tref yr Wyddgrug, bydd Coed y Ddraig yn darparu gwasanaeth cyfleoedd gwaith a dydd pwrpasol ar gyfer unigolion gydag anableddau dysgu, awtistiaeth ac anghenion cefnogi iechyd meddwl. Bydd y canolbwynt yn cael ei reoli gan Hft, gyda darpariaeth gwasanaeth integredig gan dimoedd gwasanaethau cymdeithasol a bwrdd iechyd. Cynllunnir i’r canolbwynt fod yn weithredol yn haf 2025.
Canolfan Glanhwfa

Mae Canolfan Glanhwfa yn cael ei datblygu a’i rhedeg fel Canolbwynt Cymunedol Integredig yn Llangefni. Fe’i sefydlwyd i ddarparu gwasanaethau cymorth i bobl hŷn yn y gymuned.
Mae cam cyntaf y gwaith addasu eisoes wedi’i gwblhau gan gynnwys adnewyddu’r festri i ddarparu cegin, toiledau a thair swyddfa. Mae gwaith cam dau a cham tri bellach ar y gweill gan gynnwys gwaith ar y llawr isaf, gosod lifft a gwaith adnewyddu pellach ar y capel ei hun.
Canolfan Gymunedol Dolfeurig

Mae canolfan gymunedol newydd yn cael ei datblygu yng Ngwynedd i gefnogi pobl gydag anableddau dysgu.
Bydd y ganolfan yn darparu cyfleoedd newydd ac arloesol, gan gynnwys hyfforddi a chefnogi pobl gydag anableddau dysgu i gymryd eu camau cyntaf i’r byd gwaith, gan annog cydweithio ac integreiddiad gyda’r gymuned leol.
Mae’r ddelwedd gyntaf yn dangos argraff artist o’r ganolfan orffenedig. Mae’r ail ddelwedd isod, yn dangos y safle ar hyn o bryd wrth i’r gwaith ddechrau ar y sylfeini ac is-strwythurau.
Bwriedir i’r gwaith adeiladu’r ganolfan gael ei gwblhau yng Ngwanwyn 2026.
6. Cyllid
Mae dau brif ffynhonnell o gyllid Cyfalaf Llywodraeth Cymru i gefnogi mentrau’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.
- Y Gronfa Tai â Gofal – yn cefnogi darpariaeth tai â chymorth a llety ar gyfer pobl ddiamddiffyn gydag anghenion gofal a chymorth.
- Cronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ail-gydbwyso – yn cefnogi ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu i ddatblygu 50 o ganolfannau iechyd a gofal cymdeithasol integredig, a chefnogi’r gwaith o ail-gydbwyso’r farchnad gofal preswyl.
7. Y Gronfa Tai â Gofal
Mae’r Gronfa Tai â Gofal yn rhaglen gyfalaf Llywodraeth Cymru gyda’r prif amcan o gynyddu’r stoc dai i ddiwallu anghenion pobl ag anghenion gofal a chymorth. Gallwch gael mynediad at ddogfen ganllaw’r Gronfa Tai â Gofal yma.
Mae’r Gronfa Tai â Gofal yn cefnogi tri amcan trosfwaol:
- Cefnogi’r boblogaeth sy’n heneiddio
- Darparu gofal yn agosach at adref
- Cefnogi gwasanaethau iechyd a gofal canolradd yn y gymuned
Mae Gogledd Cymru wedi derbyn £14.2 miliwn o Gyllid Tai â Gofal ar gyfer 3 blynedd gyntaf y gronfa. Yn y flwyddyn ariannol 2025/26, dyraniad Gogledd Cymru yw £13.4 miliwn.
8. Y Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ail-gydbwyso
Mae’r Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ail-gydbwyso yn bot ariannu Llywodraeth Cymru y gall pob rhanbarth yng Nghymru ymgeisio amdano. Gallwch gael mynediad at ddogfen ganllaw’r Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ail-gydbwyso yma.
Mae’n cefnogi’r tri amcan trosfwaol:
- Cefnogi dull gweithredu cydlynol i gynllunio cyd-leoli ac integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned ledled Cymru. Darparu Canolfannau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig
- Cynorthwyo i ail-gydbwyso darpariaeth gofal preswyl i oedolion trwy gynyddu darpariaeth o’r sector dielw.
- Cefnogi dileu elw o ddarparu gofal preswyl i blant.
Mae’r BPRhGC yn gweithio’n agos gyda phartneriaid i gefnogi dull cydlynol i gynllunio a darparu buddsoddiad cyfalaf tai, iechyd a gofal cymdeithasol.
Rydym eisiau galluogi pobl Gogledd Cymru i gael mynediad at wasanaeth di-dor yn agosach at adref.
Mae gan y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol rôl allweddol i wneud cynnydd â datblygiad canolfannau iechyd a gofal cymdeithasol integredig yn ogystal ag ail-gydbwyso’r farchnad o dan ganllawiau’r Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ail-gydbwyso.





