Mae’r Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol wedi cyhoeddi cynllun newydd ar gyfer sut y bydd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cydweithio i ddiwallu anghenion gofal a chymorth pobl yng Ngogledd Cymru.
Mae’r cynllun yn nodi’r blaenoriaethau ar gyfer integreiddio gwasanaethau rhwng iechyd a gofal cymdeithasol ar draws Gogledd Cymru, gan gynnwys pobl hŷn ag anghenion cymhleth, plant a phobl ifanc, pobl ag anableddau dysgu, gofalwyr ac iechyd meddwl. Fe’i ysgrifennwyd mewn ymateb i’r asesiad poblogaeth a amlygodd gynnydd yn yr angen am ofal a chymorth. Mae pobl ledled Gogledd Cymru wedi cymryd rhan i ddweud eu dweud am siâp gwasanaethau yn y dyfodol.
Cynghorydd Gareth Roberts yw Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru. Meddai, “Mae cynghorau ar draws Gogledd Cymru wedi gweithio gyda’u gilydd gyda’r Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a phartneriaid eraill i ysgrifennu’r cynllun hwn ac ymgynghorwyd yn eang â phobl sy’n defnyddio gwasanaethau, sefydliadau’r trydydd sector a phartneriaid eraill . Bydd y cynllun yn ein helpu i ddylunio gwasanaethau i ddiwallu anghenion pawb sydd angen gofal a chymorth, ynghyd a’u gofalwyr”
Mae’r cynllun ar gael yn: https://www.cydweithredfagogleddcymru.cymru/asesiad-poblogaeth-gogledd-cymru/cynllun-rhanbarthol/