Rydym yn angerddol ynghylch y rhaglen DEEP – Datblygu Ymarfer a Gyfoethogwyd gan Dystiolaeth, sydd â’r nod o wneud y byd gofal cymdeithasol yn lle gwell. Rydym yn credu mai’r allwedd bwysicaf o ran datgloi potensial gofal cymdeithasol yw tystiolaeth”
Gill Toms, Swyddog Ymchwil ac Datblygu Ymarfer, Gwyddorau Iechyd, Prifysgol Bangor
Rydym yn credu yng ngwerth defnyddio gwahanol fathau o dystiolaeth i hysbysu ymarfer a pholisi gofal cymdeithasol:
- tystiolaeth ymchwil a gwerthuso
- profiad bywyd
- gwybodaeth ymarferwyr
- gwybodaeth sefydliadol
Mae tystiolaeth o bob math yn werthfawr. Yr hyn sy’n bwysig yw defnyddio’r cyfuniad cywir o dystiolaeth ar yr adeg iawn yn y ffordd iawn.
Egwyddorion DEEP
Nid yw DEEP yn pennu dull penodedig o wneud hyn. Yn hytrach mae’n darparu cyfres o egwyddorion y gellir eu rhoi ar waith drwy amrywiaeth o ddulliau er mwyn sicrhau y bydd y defnydd o dystiolaeth yn effeithiol. Mae’r egwyddorion hyn yn hygyrch i bawb:
- Gweld gwerth yn, a gwneud defnydd o amrywiaeth o dystiolaeth – Defnyddio ymdriniaeth ddemocrataidd, sy’n hyrwyddo gwerth mathau amrywiol o ‘dystiolaeth’.
- Creu amgylchedd cyfoethog o ofal a dysgu – Helpu i greu llefydd cynhwysol a diogel lle mae pobl yn teimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu rhannu eu meddyliau a’u teimladau am ddysgu a datblygu.
- Casglu a chyflwyno tystiolaeth mewn fformatau ystyrlon – Casglu a chyflwyno tystiolaeth ar fformatau sy’n dylanwadu ar y pen a’r galon. Er enghraifft storïau, celf, barddoniaeth a datganiadau pryfoclyd
- Siarad a meddwl yn effeithiol gyda’n gilydd am wahanol fathau o dystiolaeth, sydd o bosibl yn gwrthdaro – Defnyddio technegau dysgu drwy ddeialog, gan gynnwys pawb cysylltiedig, i gefnogi dulliau cynhwysol a theg o ymchwilio i wahanol fathau o dystiolaeth.
- Cydnabod a mynd i’r afael â rhwystrau strwythurol – Mynd i’r afael â’r materion sy’n rhwystro’r defnydd o dystiolaeth mewn ymarfer.
Datblygwyd yr egwyddorion hyn drwy brosiect ymchwil gweithredu cyfranogol ac mae ein rhaglen o waith yn awr yn cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Y lle gorau i ddysgu mwy am DEEP yw ein gwefan
Byddwch yn gweld ein bod yn:
- Gweithio ar werthusiad o’r hyn y mae DEEP yn ei wireddu
- Datblygu hyfforddiant ar ymdriniaethau DEEP
- Darparu adnoddau ar-lein i gefnogi pobl i ddefnyddio ymdriniaethau DEEP yn eu gwaith eu hunain
- Hwyluso gwaith mewn meysydd blaenoriaeth, yn cynnwys seibiannau byr a chofnodi’r canlyniadau
- Cefnogi datblygiad ymchwil
Gallwch ymuno â rhestr bostio DEEP er mwyn derbyn diweddariadau rheolaidd ar ein gwaith ac mae cyfleoedd hefyd i gofrestru ar gyfer digwyddiadau DEEP.