• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Y bobl rydyn ni’n eu cefnogi >
      • Pobl gydag anableddau dysgu
      • Gofalwyr di-dâl
      • Pobl sy’n byw gyda dementia
      • Plant a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth
      • Pobl gydag anghenion emosiynol ac iechyd meddwl
    • Sut rydyn ni’n gweithio >
      • Comisiynu
      • Gweithlu
      • Diogelu
      • Fforwm gwerth cymdeithasol
      • Digidol, data a thechnoleg
      • Mwy na geiriau
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Blog / Defnyddwyr RITA yng Ngogledd Cymru yn uno

Defnyddwyr RITA yng Ngogledd Cymru yn uno

02/10/2023

Cyfarfu defnyddwyr RITA (Gweithgareddau Therapi Hel Atgofion Rhyngweithiol) Gogledd Cymru am y tro cyntaf ar 4 Gorffennaf 2023 yn Wrecsam.  Mae’r dyfeisiau digidol 10” a’r sgriniau 24” yn cael eu defnyddio mewn lleoliadau gofal iechyd gan ofalwyr, ymarferwyr gofal iechyd ac unigolion sy’n cael gofal. 

Mae’r dechnoleg yn galluogi unigolion i gofio a rhannu digwyddiadau o’u gorffennol drwy wrando ar gerddoriaeth, gwylio ffilmiau, hen glipiau teledu a delweddau o’r archif. Cefnogir gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn drwy ffefrynnau cynnwys personol, llyfrau fy mywyd, collage a phasbortau ac mae apiau i helpu gyda diagnosis, tynnu sylw a deliriwm. 

Cynlluniwyd RITA i gael ei ddefnyddio â phobl hŷn yn cynnwys pobl â dementia, pobl â salwch iechyd meddwl, anableddau dysgu ac anafiadau difrifol i’r ymennydd fel ffordd o ymgysylltu â nhw i leihau gofid, unigedd a deliriwm. 

Mynychodd staff o Wasanaeth Ambiwlans  Cymru, nyrsys, therapyddion galwedigaethol, gofalwyr, rheolwr cartrefi gofal a CPD Wrecsam i rannu eu profiadau a gwybodaeth a chlywed am y dechnoleg ddiweddaraf. 

Cafodd staff ddewis mynychu ar-lein neu wyneb yn wyneb.  Roedd y digwyddiad yn llawn a daeth â staff â gwahanol sgiliau a phrofiadau at ei gilydd a chawsant gyfle i rannu gwybodaeth;

  • Trefnodd Therapyddion Galwedigaethol Cymunedol ymweliadau â chartrefi gofal preswyl i adolygu sut roedd RITA yn cael ei ddefnyddio â phreswylwyr
  • Estynnodd defnyddwyr preswyl sydd wedi arfer defnyddio RITA wahoddiad i leoliadau eraill ymweld â nhw i weld sut maent yn defnyddio RITA yn eu gwaith
  • Cynlluniwyd sgwrs gan Kate Evans, y Cydlynydd Dementia sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam â myfyrwyr Therapi Galwedigaethol am RITA. Nodwyd eu lleoliadau gwaith fel ffordd allweddol o hyrwyddo RITA ar draws lleoliadau iechyd a gofal. 

Ydych chi’n defnyddio RITA yng Ngogledd Cymru? I gael manylion am y rhwydwaith nesaf i ddefnyddwyr neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol.

Ffeiliwyd dan: Blog, Dementia Tagged With: alzheimers, anabledd deallusol, anabledd dysgu, anableddau deallusol, anableddau dysgu, Anaf i'r ymennydd, Anafiadau i'r ymennydd, Ansawdd Bywyd, Ar-lein, Atgof, boddhad bywyd, datblygiad deallusol, dementia, Digidol, electroneg, electronig, emosiynol, Gogledd cymru, hapus, hapusrwydd, Lles, llesiant, meddyliol, rhithiol, RITA, yn rhithiol

Gofalwn Cymru WeCare Wales

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni

Bluesky: @hcargc.bsky.social


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

Copyright © 2026 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital

Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi ar ein gwefan.
Gallwch ddysgu mwy am ba gwcis rydym yn eu defnyddio neu eu diffodd yn y .

North Wales Collaborative
Wedi'i bweru gan  GDPR Cookie Compliance
Trosolwg preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn i ni allu rhoi'r profiad defnyddiwr gorau posibl i chi. Mae gwybodaeth cwcis yn cael ei storio yn eich porwr ac yn cyflawni swyddogaethau fel eich adnabod pan fyddwch chi'n dychwelyd i'n gwefan a helpu ein tîm i ddeall pa adrannau o'r wefan rydych chi'n eu cael fwyaf diddorol a defnyddiol.

Strictly Necessary Cookies

Dylai Cwcis Cwbl Angenrheidiol fod wedi'u galluogi bob amser fel y gallwn gadw eich dewisiadau ar gyfer gosodiadau cwcis.

Cwcis Trydydd Parti

Mae'r wefan hon yn defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth ddienw fel nifer yr ymwelwyr â'r safle, a'r tudalennau mwyaf poblogaidd.

Mae cadw'r cwci hwn wedi'i alluogi yn ein helpu i wella ein gwefan.