• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Y bobl rydyn ni’n eu cefnogi >
      • Pobl gydag anableddau dysgu
      • Gofalwyr di-dâl
      • Pobl sy’n byw gyda dementia
      • Plant a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth
      • Pobl gydag anghenion emosiynol ac iechyd meddwl
    • Sut rydyn ni’n gweithio >
      • Comisiynu
      • Gweithlu
      • Diogelu
      • Fforwm gwerth cymdeithasol
      • Digidol, data a thechnoleg
      • Mwy na geiriau
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Blog / DEMENTIA – Manteisio ar y cymorth cywir, ar yr adeg gywir: Llwybr Cymorth Cof Gogledd Cymru

DEMENTIA – Manteisio ar y cymorth cywir, ar yr adeg gywir: Llwybr Cymorth Cof Gogledd Cymru

20/01/2025

Ydych chi’n poeni am eich cof? Nid chi yw’r unig un. Amcangyfrifir bod 11,900 o bobl yn byw gyda dementia yng Ngogledd Cymru, a bod rhyw 67,000 o ofalwyr di-dâl yn rhoi cymorth i anwyliaid, yn ôl Cyfrifiad 2021. Mae Gwasanaeth Cymorth Cof Gogledd Cymru yn cynnig cymorth wedi’i deilwra i bobl y mae dementia yn effeithio arnynt. Mae hyn yn cynnwys unigolion sy’n pryderu ynghylch materion sy’n effeithio ar y cof, y rhai sy’n byw gyda dementia gartref neu yn yr ysbyty, a’u ffrindiau a’u teuluoedd.

Gwnaeth y gwasanaeth roi cymorth i 4,700 o bobl yn ystod 2023/24, dros 1,200 yn fwy o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae cymorth ar gael ar bob cam o’r daith ddementia – cyn, yn ystod, ac ar ôl diagnosis. Mae cydweithio rhwng y chwe awdurdod lleol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cymdeithas Alzheimer’s, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru, Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr, a NEWCIS yn sicrhau bod cyngor ac arweiniad yn cael eu personoli i ddiwallu anghenion unigol.

Gallwch fanteisio ar gymorth trwy ymweld ag un o’r chwe Chanolfan Ddementia neu trwy gysylltu â nhw. Mae un ar gael ym mhob sir yng Ngogledd Cymru. Maent wedi’u lleoli yn Llangefni, Bangor, Bae Colwyn, Dinbych, Treffynnon a Wrecsam. Nid oes angen unrhyw gyfeiriad gan feddyg teulu na gweithiwr proffesiynol, ond gall gweithwyr proffesiynol gysylltu ar ran yr unigolyn hefyd.

Y rhif ffôn i gysylltu ag unrhyw ganolfan dementia yng Ngogledd Cymru yw: 01492 542212. Gallwch ffonio o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm.

Y cyfeiriad e-bost yw NWmemorysupport@ctnw.org.uk

Mae’r Canolfannau Dementia yn darparu:

  • Gwybodaeth a chyngor
  • Gweithgareddau a Dal i Fyny
  • Cymorth emosiynol a chymorth cymheiriaid
  • Siaradwyr gwadd a chlinigau iechyd

Mae hwn yn un o’r gwasanaethau lawer a ariennir gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru , sy’n rhoi cymorth o ran cyflwyno amrywiaeth o fentrau iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer pobl a chymunedau ar draws y rhanbarth.

I gael rhagor o wybodaeth am Wasanaeth Cymorth Cof Gogledd Cymru, ewch i: https://northwalescollaborative.wales/dementia/north-wales-memory-support-pathway/

I ddysgu mwy am Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru, ewch i: https://northwalescollaborative.wales/regional-partnership-board/

Ffeiliwyd dan: Blog Tagged With: alzheimers, dementia

Gofalwn Cymru WeCare Wales

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni

Bluesky: @hcargc.bsky.social


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

Copyright © 2026 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital

Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi ar ein gwefan.
Gallwch ddysgu mwy am ba gwcis rydym yn eu defnyddio neu eu diffodd yn y .

North Wales Collaborative
Wedi'i bweru gan  GDPR Cookie Compliance
Trosolwg preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn i ni allu rhoi'r profiad defnyddiwr gorau posibl i chi. Mae gwybodaeth cwcis yn cael ei storio yn eich porwr ac yn cyflawni swyddogaethau fel eich adnabod pan fyddwch chi'n dychwelyd i'n gwefan a helpu ein tîm i ddeall pa adrannau o'r wefan rydych chi'n eu cael fwyaf diddorol a defnyddiol.

Strictly Necessary Cookies

Dylai Cwcis Cwbl Angenrheidiol fod wedi'u galluogi bob amser fel y gallwn gadw eich dewisiadau ar gyfer gosodiadau cwcis.

Cwcis Trydydd Parti

Mae'r wefan hon yn defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth ddienw fel nifer yr ymwelwyr â'r safle, a'r tudalennau mwyaf poblogaidd.

Mae cadw'r cwci hwn wedi'i alluogi yn ein helpu i wella ein gwefan.