21 Tachwedd 2019, 9.30am tan 3pm. Theatr Clwyd
Darperir cinio.
Dweud eich dweud am Strategaeth Ddementia Gogledd Cymru
Mae’r digwyddiad hwn yn agored i bawb a effeithir gan ddementia. Mae lleoedd yn brin felly archebwch eich lle cyn gynted â phosibl. Byddwn yn cadw llefydd i sicrhau fod gennym gynrychiolaeth dda gan bobl sy’n byw â dementia, gofalwyr, staff a gwirfoddolwyr o’r gwasanaeth iechyd, y gwasanaethau cymdeithasol, y trydydd sector â’r sector annibynnol a sefydliadau gwirfoddol a chymunedol.
Cynllun y diwrnod
Byddwn yn rhannu ein canfyddiadau ynghylch yr angen am wasanaethau yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys ymchwil ac ystadegau, yr hyn mae pobl wedi’i ddweud wrthym hyd yma a sut mae gwasanaethau yn gweithio ar hyn o bryd. Yna, byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i gytuno ar beth ddylai ddigwydd nesaf.
Rydym yn ymdrechu i wneud y digwyddiad hwn mor hygyrch â phosibl, gan gynnwys ystafell dawel y gall pobl ei defnyddio yn ystod y dydd os oes arnynt angen egwyl. Os oes gennych unrhyw ofynion eraill, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu eich lle.
Rhannu arferion da
Fel rhan o’r digwyddiad, byddwn yn rhannu enghreifftiau o arferion da mewn perthynas â gofal dementia. Os hoffech chi gynnal stondin amser cinio i rannu eich enghreifftiau chi o arferion da, cofrestrwch eich diddordeb pan fyddwch yn archebu eich lle.
Os nad ydych yn gallu mynychu
Os nad ydych yn gallu mynychu’r digwyddiad, mae ffyrdd eraill o ddweud eich dweud ar y strategaeth ddrafft a chyflwyno enghreifftiau o arferion da mewn perthynas â gofal dementia. Cysylltwch â sarah.bartlett@denbighshire.gov.uk i gael manylion.