Lead Organisation: Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd
Fe wnaed yr ymchwil gan Raglen Drawsnewid Anableddau Dysgu Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd ar ran Grŵp Partneriaeth Anableddau Dysgu Gogledd Cymru. Fe gododd yr ymchwil o Strategaeth Anableddau Dysgu Gogledd Cymru ac mae’r pwyslais ar bwysigrwydd sicrhau fod y pontio o’r ysgol uwchradd i ddewisiadau a chyfleoedd ôl-16 yn iawn ar gyfer pobl ifanc gydag anableddau dysgu.
Pwrpas yr ymchwil oedd i ddeall pa mor dda mae Gogledd Cymru yn bodloni anghenion datblygu unigol pobl ifanc gydag anableddau dysgu ar hyn o bryd a lle mae angen gwelliant. Mae’r ymchwil yn gorffen gyda chyfres o argymhellion i bartneriaid ym meysydd iechyd, y gwasanaethau cymdeithasol, addysg, cyflogaeth a sgiliau a Llywodraeth Cymru.
Ymhlith y canfyddiadau roedd:
- Yr angen i sicrhau fod cynllunio pontio yn gyfannol ac yn cynnwys yr holl feysydd bywyd sy’n bwysig i bobl ifanc gydag anableddau dysgu fel cyfeillgarwch a pherthnasoedd, bod yn annibynnol a chael swydd.
- Pwysigrwydd cydgysylltu pontio ar draws meysydd iechyd, y gwasanaethau cymdeithasol ac addysg.
- Gwella’r cynnig cyflogaeth â chymorth ar gyfer y rhanbarth fel bod gan bob unigolyn ifanc y cymorth cywir i ddod o hyd i gyflogaeth am dâl.
- Yr angen i wella’r cynnig ôl-16 ar gyfer pobl ifanc gydag anableddau dysgu lluosog a dwys.
Mae’r pecyn ymchwil yn cynnwys:
- Yr adroddiad ymchwil llawn, y crynodeb gweithredol a fersiwn hawdd i’w ddarllen yn y Gymraeg a’r Saesneg.
- Canllaw Arfer Da yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Mae’r Canllaw Arfer Da yn rhoi cipolwg o fentrau arloesol sydd wedi eu hanelu at alluogi pobl ifanc gydag anableddau dysgu i gyflawni’r hyn sy’n bwysig iddynt.
Bydd yr adnodd digidol Bywyd ar ôl yr Ysgol – sydd wedi ei gyd-gynhyrchu gan bobl ifanc gydag anableddau dysgu ar gyfer pobl ifanc gydag anableddau dysgu yn cael ei lansio yn ddiweddarach eleni! Mae’r adnodd yn gasgliad o fideos byr wedi eu hanelu at bobl ifanc gydag anableddau dysgu. Mae pob clip yn edrych ar wahanol faes bywyd yn seiliedig ar yr hyn mae pobl ifanc wedi dweud sy’n bwysig iddynt wrth iddynt gynllunio eu camau nesaf ar ôl yr ysgol.
Os hoffech fwy o wybodaeth neu os ydych eisiau dod yn rhan o hyn cysylltwch: LDTransformation@flintshire.gov.uk.
Bywyd ar ôl yr Ysgol: taith pobl ifanc gydag anableddau dysgu yng Ngogledd Cymru.