Adborth o sesiynau ymgysylltu â phobl ifanc 11 i 25 oed yng Ngwynedd.
Lead Organisation:
Themâu a godwyd mewn sesiynau ymgysylltu â phobl ifanc:
- Cafodd iechyd meddwl ac iselder eu codi’n aml trwy ymarferion ymgysylltu. Roedd cefnogaeth teulu a ffrindiau a chael lle diogel i ffrindiau gyfarfod â nhw yn allweddol ar gyfer datrys problemau. I rai, roedd peidio â bod â rhywun y gellir ymddiried ynddynt i siarad â hwy yn broblem benodol. Thema allweddol a gododd o’r ymarferion ymgysylltu oedd bod gallu cael mynediad at rwydweithiau cymorth ‘arferol’ yn bwysicach na chael mynediad at wasanaethau.
- Roedd diflastod yn bwynt arall oedd yn codi gan bobl ifanc ar draws yr ymarferion ymgysylltu, yn bennaf oherwydd y prinder gweithgareddau sydd ar gael iddynt ymgysylltu â hwy, neu nad oedd gwybodaeth am yr hyn sydd ar gael ddim yn hygyrch.
- Problem amlwg arall oedd anawsterau dysgu/ niwroamrywiaeth ac roedd y bobl ifanc â’r cyflyrau hyn yn teimlo bod y profiad o gael eu cau allan a’r stigma sydd ynghlwm â chyflyrau megis ASD neu ADHD neu gael trafferth â gwaith academaidd wedi effeithio ar eu hunan-barch a’u hiechyd meddwl.
- Camddefnyddio sylweddau- cafodd camddefnyddio sylweddau ei godi fel mater o risg ar draws yr holl ymarferion ymgysylltu. Roedd pobl ifanc yn gweld camddefnyddio sylweddau fel symptom o ddigartrefedd yn ogystal â fel ffactor cyfrannol.
- Cyfeiriwyd yn gyson hefyd at heriau yn ymwneud â’r deinameg teuluol fel ffactorau o ran hapusrwydd a chanlyniadau bywyd pobl ifanc.