Lead Organisation: STAND NW
Rhwng 15 o Chwefror 2022 a 6 Mawrth 2022, cynhaliodd STAND Gogledd Cymru arolwg o’r enw ‘Effaith Cyflogaeth yn erbyn Cyfrifoldebau Gofalu’. Gofynnwyd i rieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol wedi’u cefnogi gan STAND Gogledd Cymru, gwblhau arolwg i gael gwell dealltwriaeth o effeithiau cyfrifoldebau gofalu ar gyflogaeth ar draws Gogledd Cymru, ac i benderfynu addasrwydd y darpariaethau sydd ar gael i rieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol y mae’r sefydliad yn eu cefnogi.
Casglwyd 125 o ymatebion gan gymysgedd o rieni a gofalwyr. Roedd yr arolwg yn ddienw er mwyn galluogi unigolion i fod yn onest gyda’u hatebion. Mae’r ymatebion a gasglwyd yn yr arolwg yn agos at gynrychiolaeth y boblogaeth y mae STAND Gogledd Cymru yn ei gefnogi.
Gofynnwyd cyfres o gwestiynau i’r cyfranogwyr am eu rolau a chyfrifoldebau gofalu, eu cyflogaeth, hyfforddiant neu astudiaethau presennol a’r gwasanaethau maent yn cael mynediad atynt.
O’r ymatebion a gasglwyd, daeth y gwerthusiad i’r casgliad fod diffyg gwybodaeth ar draws Gogledd Cymru o ran pa wasanaethau sydd ar gael i ofalwyr. Daeth i’r casgliad hefyd fod diffyg gwasanaethau yn cynnig gofal seibiant neu ofal plant ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion gydag anghenion ychwanegol ac anableddau. Mae’r diffyg gwybodaeth a hygyrchedd yn effeithio’n uniongyrchol ar gyfleoedd cyflogaeth sydd ar gael i unigolion gyda chyfrifoldebau gofalu, gyda mwy na hanner y cyfranogwyr yn dynodi eu bod wedi lleihau eu horiau gweithio er mwyn cyflawni eu cyfrifoldebau gofalu.
Ar ôl i’r arolwg cael ei gwblhau ac ar ôl gwerthuso’r ymatebion, creodd STAND Gogledd Cymru gyfres o argymhellion i awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, darparwyr gwasanaeth, darparwyr gofal plant a chyflogwyr er mwyn helpu gofalwyr yn y dyfodol.
I gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf ewch i wefan STAND.