Lead Organisation:
Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru wedi cynhyrchu briff 7 munud ynglŷn â lleisiau oedolion mewn perygl a’r broses ddiogelu.
Mae’r briff yn cynnwys beth mae atal a diogelu yn ei olygu i oedolion mewn perygl a sut i ymateb i bryderon ynghylch diogelu a chefnogi pobl yn dda, yn cynnwys yn ystod cyfarfod cynllunio trefniadau diogelu.
Yn fy ngeiriau fy hun, mae diogelu yn cynnwys: derbyn y cymorth sydd arnaf ei angen; cael pobl wrth fy ochr; gwybod y bydd pobl yn fy helpu; peidio â theimlo’n ofnus drwy’r amser; gallu mynd allan unwaith eto; a gadael i mi fyw fel y mynnaf.