Ymgysylltiad â phobl ifanc 11 i 25 oed ynghylch sut mae gwasanaethau ieuenctid yng Ngwynedd yn cefnogi eu lles emosiynol a meddyliol.
Lead Organisation:
Ymgysylltiad â phobl ifanc 11 i 25 oed er mwyn deall a gwerthuso’r cyfraniad mae’r Gwasanaethau Ieuenctid yng Ngwynedd yn ei wneud er mwyn lles emosiynol a meddyliol pobl ifanc 11-25 oed. Cafodd y gwaith ymgysylltu ei wneud gan y Sefydliad Iechyd Meddwl a Chwmni CELyn.
Dywedodd y bobl ifanc:
- Bod diffyg ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ynglŷn ag iechyd meddwl pobl ifanc yn gyffredinol
- Bod diffyg dealltwriaeth gan y ddarpariaeth Gwasanaethau ieuenctid
- Bod y rhai a oedd yn ymwneud â’r Gwasanaeth Ieuenctid yn cael budd ohono
- Doedd dim digon o gefnogaeth ar gyfer lles emosiynol a meddyliol yn gyffredinol
- Bod angen hyrwyddo’r Gwasanaeth Ieuenctid yn well
Dywedodd y gweithwyr proffesiynol:
- Mae dirnadaeth negyddol ynghylch iechyd meddwl a meithrin gwytnwch â phobl ifanc (yn hytrach nag ystyried iechyd meddwl fel rhywbeth cadarnhaol)
- Mae rôl y Gwasanaeth Ieuenctid a’r gweithiwr ieuenctid yn aneglur
- Mae diffyg gweithio ar y cyd â phartneriaid
- Sut mae mynd ati i werthuso’r gwaith yr ydym yn ei wneud?