Lead Organisation: Cyngor Sir Ddinbych
Cyflawnwyd yr arolwg rhwng Ebrill a Mehefin 2019 a chafwyd 35 o ymatebion.
Gwybodaeth a chyngor
Y darganfyddiadau allweddol oedd:
- Y prif lefydd y mae pobl yn chwilio am wybodaeth yw ar google / rhyngrwyd, lle mae oddeutu dwywaith gymaint o gyfranogwyr yn ei ddefnyddio, a’r dewis mwyaf poblogaidd arall oedd teulu, ffrindiau a chymdogion neu’r Meddyg Teulu.
- Y ffynonellau mwyaf cyffredin i gael cyngor ganddynt oedd teulu, ffrindiau a chymdogion, gyda’r trydydd sector a Meddygon Teulu’r dewis wedi hynny.
- Darganfuwyd mai’r wybodaeth fwyaf defnyddiol oedd am wasanaethau gofal a thrwsio, er mai dim ond nifer fechan o bobl wnaeth ateb y cwestiwn.
- Cyngor ariannol defnyddiol oedd y wybodaeth yr oedd y rhan fwyaf o bobl eisiau ei gael.
Cymorth i ofalwyr
Dywedodd y rhan fwyaf o bobl nad oedden nhw’n ymwybodol o’r gwasanaethau sydd ar gael i ofalwyr cymorth ac y byddai’r cyngor yn gallu gwneud mwy i ymateb yn effeithiol i anghenion gofalwyr.
Dywedodd llawer o ofalwyr nad oedden nhw’n gallu parhau i weithio neu aros mewn addysg oherwydd eu rôl gofalu gyda dim ond 4 allan o’r 35 o gyfranogwyr yn dweud eu bod nhw’n parhau yn llawn amser. Mae oddeutu hanner y bobl wedi’u cyflogi yn dweud bod eu cyflogwr yn gefnogol a bod y rhan fwyaf o bobl yn dweud nad oedden nhw wedi gallu parhau gyda gweithgareddau hamdden.
Y prif themâu yn sylwadau’r gofalwyr oedd:
- Methu â chael cyngor gan un cyswllt neu adnodd sy’n rhwystredig
- Diffyg amser / cyfle i edrych am y wybodaeth eich hun
- Mae’r broses darganfod sianeli a phrosesau cyfathrebu yn hirwyntog a ddim yn hawdd i’w ddefnyddio
- Pwysau ariannol yn ychwanegu at y baich
- Gwasanaethau sy’n cael eu cynnig o werth sylweddol i’r derbynyddion
- Amseroedd cyrraedd anrhagweladwy a staff yn newid drwy’r amser ddim yn ddefnyddiol i’r gofalwr neu i’r person sy’n derbyn y gofal