Lead Organisation: Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
Cynhaliwyd arolwg gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru er mwyn helpu i ddeall yn well i ba raddau y mae technoleg ddigidol yn cael ei defnyddio, y rhwystrau a wynebir, a’r lefel a’r math o gymorth sydd ei angen, o safbwynt staff a rheolwyr gweithredol, wrth symud ymlaen.
Canfu’r arolwg bod pob sefydliad yn defnyddio technoleg ddigidol, yn enwedig ar gyfer dysgu a datblygu.
Defnyddiodd cyfranogwyr dechnoleg ddigidol i helpu’r bobl y maent yn eu cefnogi. Y prif ddefnydd a amlygwyd gan reolwyr a staff oedd ar gyfer helpu pobl i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu.
Yn gyffredinol, roedd rheolwyr a staff yn gadarnhaol ynglŷn â defnyddio technoleg gyda’r rhan fwyaf yn cytuno y gall technoleg helpu i wneud gwasanaethau’n fwy effeithlon, a bod buddion amlwg i bobl sy’n derbyn gofal.
Dywedodd rheolwyr mai’r her fwyaf wrth ddefnyddio technoleg oedd cynnig mynediad cyfartal at dechnoleg ddigidol i’r holl staff. Amlygwyd hyn gan arolwg y staff a ganfu fod 91% o’r staff â mynediad at ddyfais ddigidol ar gyfer hyfforddiant neu e-ddysgu, ond bod 62% o’r staff yn defnyddio eu dyfais eu hunain yn hytrach nag un a ddarperir gan eu cyflogwyr.
Roedd y rhan fwyaf o’r staff yn weddol hyderus neu yn hyderus iawn yn eu sgiliau digidol, gyda 18% o’r staff yn dweud nad oedd ganddynt hyder mewn o leiaf un sgil ddigidol. Fodd bynnag, hoffai staff fwy o gymorth, gyda 73% yn dweud y byddai hyfforddiant a chymorth i ddefnyddio technoleg ddigidol yn eu helpu i wneud eu gwaith yn well. Y ffyrdd o dderbyn cefnogaeth a ffefrir fwyaf oedd drwy hyfforddiant a chymorth gan gydweithwyr ac hyfforddiant TG ffurfiol, ond cafodd pob math o hyfforddiant ymateb cadarnhaol.