Lead Organisation: We Mind the Gap
Roedd eu hymatebion yn nodi blaenoriaethau clir ar gyfer gwella bywydau yn eu cymunedau. Un thema a gododd dro ar ôl tro oedd mynediad gwell at weithgareddau hamdden amrywiol a fforddiadwy, a hynny’n aml mewn perthynas â’r angen am well cludiant cyhoeddus, yn enwedig o ran gwasanaethau bws gyda’r nos ac ar benwythnosau. Daeth yn amlwg bod addysg a chyflogaeth yn feysydd hollbwysig, gyda galw am fwy o hyfforddiant galwedigaethol, llwybrau gyrfa cliriach, a chyfleoedd gwaith wedi’u targedu ar gyfer pobl ifanc. Gofynnodd pobl ifanc am fwy o gefnogaeth gydag iechyd meddwl, mwy o ddigwyddiadau a chlybiau dan arweiniad pobl ifanc, a’u bod yn cael eu cynnwys yn well mewn gwaith cynllunio a phenderfyniadau lleol. Ar draws pob maes, roedd pwyslais ar greu systemau mwy hygyrch ac ymatebol, sy’n grymuso, er mwyn cefnogi lles a rhagolygon pobl ifanc ar gyfer y dyfodol.
Themâu cyffredin
- Gweithgareddau hamdden
- Addysg a chyfleoedd
- Bywyd cymunedol a chymdeithasol
- Amodau economaidd a chyflogaeth
Rhwystrau a nodwyd ar draws y themâu
- Argaeledd, fforddiadwyedd a mynediad at gludiant cyhoeddus
- Cyfleoedd, mynediad at ac amrywiaeth o weithgareddau hamdden
- Dirnadaeth o ran cyfleoedd a gweithgareddau
- Argaeledd gweithgareddau addysgol, amrywiaeth a hyfforddiant galwedigaethol
- Cyfleoedd i ymgysylltu â phobl ifanc a chysylltedd cymdeithasol
- Diogelwch ac ansawdd bywyd
- Gorbryder a straen cysylltiedig â gwaith
- Argaeledd cyfleoedd gwaith ar gyfer pobl ifanc
Gofynnwyd i blant a phobl ifanc hefyd pa awgrymiadau oedd ganddynt o ran ffyrdd y gallwn ni wella eu bywydau yn Sir y Fflint, ac roedd eu hymatebion yn cynnwys:
- Gweithgareddau a chyfleusterau hamdden gwell
- Hygyrchedd a chludiant cyhoeddus gwell
- Mwy o gyfleoedd addysgol, hyfforddiant galwedigaethol a chyfleoedd gyrfaol
- Ymgysylltiad â phobl ifanc a chefnogaeth gymunedol well
Rhagor o wybodaeth: We Mind the Gap