Beth yw barn pobl ifanc a sut maen nhw’n teimlo – ymholiad gwerthfawrogol gan We Mind the Gap.
Lead Organisation:
Heriau cyffredin:
- Iechyd meddwl: nododd nifer sylweddol o bobl ifanc eu bod wedi profi heriau iechyd meddwl, gyda bron i 25% wedi cael diagnosis o gyflwr.
- Effaith y pandemig: Mae’r cyfnodau clo Covid wedi arwain at bobl ifanc yn teimlo mwy o unigrwydd, gorbryder ac arwahanrwydd cymdeithasol.
- Dyheadau a realiti: Er bod llawer yn blaenoriaethu iechyd da, cyfoeth a hapusrwydd, maent yn aml yn amau eu gallu i gyflawni’r nodau hyn.
- Perthyn a chymuned: Mae cyfran sylweddol yn teimlo nad ydynt yn rhan o’u cymunedau, gan amlygu pwysigrwydd perthyn a rhwydweithiau cymdeithasol cadarn.
Dysgu allweddol
- Yn aml, mae angen proses atgyfeirio ar gyfer ymgysylltu â phobl ifanc, sy’n cynnwys estyn allan trwy rieni, colegau, ysgolion, ffrindiau a theulu, gan nad ydyn nhw o reidrwydd yn ceisio cymorth yn uniongyrchol. Mae angen atgyfeiriwr dibynadwy: rhiant, athro/ athrawes, ffrind.
- Gall defnyddio’r math anghywir o iaith neu raglenni nad ydynt yn apelio at bobl ifanc neu nad ydynt yn teimlo’n unigryw iddynt, arwain yn hawdd at ymddieithriad. Mae’n rhaid dal eu sylw yn gyflym, neu ni fydd fyth yn…
- Mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith ddwys a pharhaol ar fywydau pobl ifanc, gan ei gwneud hi’n afrealistig disgwyl iddynt ddychwelyd i normalrwydd cyn y pandemig yn hawdd.
- Ni weithiodd dulliau confensiynol o gyrraedd pobl at ddibenion ymchwil e.e. holiadur ar y cyfryngau cymdeithasol, holiadur wedi’i argraffu.
- Mae cysylltiad agos rhwng hapusrwydd a chael ymdeimlad o bwrpas ac ystyr, rhywbeth a gollodd llawer o bobl ifanc yn ystod y pandemig ac y maent yn ei chael hi’n anodd ei adennill.
- Mae ymgysylltiad cymdeithasol yn chwarae rhan amddiffynnol yn lles meddyliol pobl ifanc, ond mae tueddiadau gweithio o bell wedi lleihau eu rhyngweithiad â chyfoedion a chydweithwyr.
- Mae arferion a ffurfiwyd yn ystod cyfnodau clo Covid 19, megis treulio mwy o amser ar-lein, unigrwydd a gorbryder cymdeithasol canlyniadol, yn parhau i effeithio ar bobl ifanc.
- Mae’r modd y mae pobl ifanc yn cyfathrebu a’u byd-olwg wedi newid yn sylweddol, gan olygu fod angen ail-werthuso disgwyliadau cyn y pandemig.
- Mae llawer o bobl ifanc yn teimlo nad oes ganddynt gymhelliant ac nad ydynt yn cael eu cefnogi â’u dysgu a’u datblygiad, ar ôl colli cerrig milltir hollbwysig yn ystod y pandemig.
- Mae meithrin hunan-effeithiolrwydd yn gofyn am wynebu’r heriau gorau posibl, ond efallai na fydd gan bobl ifanc hyder yn eu gallu oherwydd diffyg asesiadau ac arholiadau yn ystod y pandemig.
- Er gwaethaf yr heriau, ceir unigolion ifanc ysbrydoledig sydd â dyheadau unigryw, ac mae’n hanfodol eu bod yn cael eu cefnogi ac y darperir ar eu cyfer, hyd yn oed os nad yw eu llwybrau’n cyd-fynd â disgwyliadau traddodiadol.
- Nid yw pobl ifanc yn teimlo bod eu llais yn cael ei gynnwys, bod ganddynt asiantaeth. Un sylw a gododd yn aml oedd ‘Dyma’r tro cyntaf y mae rhywun wedi gofyn am fy marn’
Rhagor o wybodaeth: We Mind the Gap
Date completed
Rhagfyr 2023