Lead Organisation: Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
Mae 231 o bobl sy’n byw yng Ngwynedd wedi rhannu eu safbwyntiau gyda ni am ofal dementia da, cymuned a’r gefnogaeth a chymorth y mae pobl sy’n byw gyda dementia eu hangen. Dyma beth oedd ganddynt i’w ddweud wrthym.
Beth yw gofal dementia da?
- Mae gofal yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac wedi’i seilio ar yr hyn sydd o bwys i’r unigolyn.
- Mae gofalwyr di-dâl, teulu a ffrindiau yn cael eu cefnogi hefyd ac yn cael cyfleoedd i gael seibiant o ofalu.
- Mae pobl yn byw mor annibynnol â phosibl.
- Gall pobl wneud eu dewisiadau a’u penderfyniadau eu hunain ynghylch eu gofal.
- Pobl yn cael eu trin gydag urddas, dealltwriaeth ac amynedd.
- Pobl gydag ansawdd bywyd gorau ac yn cael eu caru.
- Dylai gweithwyr gofal fod yn brofiadol.
- Gofal a chymorth yn y lle iawn ac mor agos â phosibl i’w cartref.
- Mynediad at wybodaeth a chyngor.
- Cyfathrebu clir yn eu dewis iaith.
- Mae digonedd o ddewis o ran grwpiau a gweithgareddau i bobl.
- Cymunedau cynhwysol a hygyrch, sy’n deall dementia.
- Cymorth a gofal ar yr adeg iawn.
- Mynediad gan bobl at ofal iechyd da.
- Cyllid ar gyfer gofal a chefnogaeth.
- Pobl yn derbyn y gefnogaeth ymarferol sydd ei hangen arnynt.
- Gwasanaethau yn cydweithio i ddarparu gofal integredig sydd yn bodloni anghenion pobl.
Beth ddylai fod ar gael i bobl sy’n byw gyda dementia?
Y math o ofal a ddisgrifir uchod gan gynnwys mynediad at ystod eang o weithgareddau ar sail beth sydd o bwys iddynt hwy; mynediad at ofal a chymorth; cefnogaeth ariannol a chymorth gyda materion cyfreithiol; ymwybyddiaeth o ddementia a hyfforddiant i’r gymuned ehangach; mynediad i wasanaethau iechyd; cymorth i ofalwyr di-dâl; hawl i wybodaeth a chyngor; a chludiant.
Beth mae’r gymuned yn ei olygu i chi?

Beth yw’r pethau a fydd yn helpu pobl sy’n byw gyda dementia?
- Derbyn y gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnynt.
- Deall pwysigrwydd y Gymraeg a diwylliant Cymru.
- Cymorth i ofalwyr di-dâl.
- Cefnogaeth gymunedol a grwpiau lleol.
- Cludiant.
- Creu cymuned sy’n deall dementia.
- Gwasanaethau ac amgylcheddau hygyrch.
- Ei gwneud yn haws cael mynediad at gymorth.
- Cymorth ariannol a chyllid.
- Mynediad at ofal iechyd da.