Lead Organisation: Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
Mae 56 o bobl sy’n byw yn yr Wyddgrug a’r ardal gyfagos wedi rhannu eu barn gyda ni ar holiadur yr Arolwg Ymgyrch Wrando. Darparwyd adborth ychwanegol yn nigwyddiad yr ymgyrch ym mis Tachwedd. Yn y digwyddiad hwn, cafwyd cipolwg o’r gofal, y gymuned a’r gefnogaeth a chymorth sydd eu hangen ar bobl sy’n byw â dementia. Dyma grynodeb o’r hyn a nodwyd.
Beth yw gofal dementia da.
- Mae gofal yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac wedi’i seilio ar yr hyn sydd o bwys i’r unigolyn.
- Mae gofalwyr di-dâl, teulu a ffrindiau yn cael eu cefnogi hefyd ac yn cael cyfleoedd i gael seibiant o ofalu.
- Mae pobl yn byw mor annibynnol â phosibl.
- Gall pobl wneud eu dewisiadau a’u penderfyniadau eu hunain ynghylch eu gofal.
- Caiff pobl yn eu trin gydag urddas, dealltwriaeth ac amynedd.
- Digon o weithwyr gofal profiadol.
- Gofal a chymorth yn y lle iawn ac mor agos â phosibl i’w cartref.
- Mynediad at wybodaeth a chyngor.
- Mae digonedd o ddewis o ran grwpiau a gweithgareddau i bobl.
- Cymunedau cynhwysol a hygyrch, sy’n deall dementia.
- Mae ansawdd bywyd pobl ar ei orau ac yn llawn cariad.
- Cymorth a gofal ar yr adeg iawn.
- Mae pobl yn derbyn y gefnogaeth ymarferol sydd ei hangen arnynt.
- Mae gofal yn fforddiadwy ac mae gan bobl fynediad at gyngor a chymorth ariannol.
Beth ddylai fod ar gaek i bobl sy’n byw gyda dementia
Y math o ofal a ddisgrifir uchod gan gynnwys mynediad at ystod eang o weithgareddau ar sail beth sydd o bwys iddynt hwy; mynediad at ofal a chymorth; cefnogaeth ariannol; addysg a hyfforddiant i’r gymuned ehangach; gwybodaeth a chyngor; cludiant; a chymorth i ofalwyr di-dâl.
Beth mae cymuned yn ei olygu i chi?

Beth yw’r pethai a fydd yn helpu pobl sy’n byw gyda dementia?
- Derbyn y gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnynt.
- Cymorth i ofalwyr di-dâl.
- Cefnogaeth gymunedol a grwpiau lleol.
- Creu cymuned sy’n deall dementia.
- Gwasanaethau ac amgylcheddau hygyrch.
- Ei gwneud yn haws cael mynediad at gymorth.
- Cludiant cyhoeddus hygyrch a rheolaidd.
- Cymorth ariannol a chyllid.
- Technoleg a chymhorthion eraill.