Cynhelir cynhadledd gyntaf ENRICH Cymru ym Mhrifysgol Bangor (Neuadd Reichel) ar ddydd Mercher 23ain o Hydref 2019.
Ymunwch â ni ar y diwrnod i ddysgu mwy am:
- Yr ymchwil diweddaraf yng Nghymru – o ofal dementia a rhyng-cenedlaethau i’r rôl ddatblygiadol o dechnoleg mewn cartrefi gofal
- Ymchwil sydd ar ddod mewn gofal iechyd y geg ar gyfer cymuned y cartref gofal a hynny mewn prif anerchiad gan yr Athro Paul Brocklehurst, arbenigwr enwog mewn Ymchwil Gwasanaethau Iechyd Datblygiadau cyffrous newydd yn rhwydwaith ENRICH Cymru ar draws Cymru, a chyfle i gofrestru gyda’r rhwydwaith
- Y profiad o ‘eiliadau hud’ mewn gofal diwedd bywyd
- Sut fedrwch lunio prosiectau ymchwil y dyfodol wedi eu datblygu yng Nghymru.
Pa un ai a oes gennych ddiddordeb clywed am yr ymchwil diweddaraf mewn cartrefi gofal, neu am ddatblygu prosiect newydd, mae lle i chi yn y rhwydwaith!
Mae’r gynhadledd yn RHAD AC AM DDIM, caiff cinio a lluniaeth eu darparu drwy gydol y dydd. Archebwch eich lle heddiw