Ym mis Ebrill 2018, cyhoeddodd Gofal Cymdeithasol Cymru y Côd Ymarfer i Gyflogwyr Gofal Cymdeithasol. Mae’n disgrifio’r safonau a ddisgwylir gan gyflogwyr gofal cymdeithasol i sicrhau gweithlu diogel a medrus sy’n derbyn cefnogaeth. Cyhoeddir y côd hwn dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu (Cymru) ac mae’n cynnwys safonau ar ymuno â’r gweithlu, galluogi ymarfer da, dysgu a datblygu, diogelu pobl ac ymgorffori’r codau ymarfer.
Mae Côd y Cyflogwyr yn ychwanegu at ac yn ategu’r safonau staffio a gyflwynwyd yn y rheoliadau a’r canllawiau statudol i wasanaethau gofal cymdeithasol. Mae’n bwysig bod cyflogwyr gofal cymdeithasol yn darllen y Côd ac yn gofalu eu bod nhw’n bodloni’r safonau. Gall Arolygiaeth Gofal Cymru gymryd camau os na fydd cyflogwyr yn cydymffurfio â’r Côd.
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch Sheila.lyons@gofalcymdeithasol.cymru