• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
    • Cymryd rhan
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
      • Anableddau dysgu
      • Iechyd meddwl
      • Plant a phobl ifanc
    • Gofalwyr
    • Dementia
    • Comisiynu
    • Gweithlu
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol / Dod o Hyd i Wybodaeth Iechyd o Safon Ar-lein

Dod o Hyd i Wybodaeth Iechyd o Safon Ar-lein

Pam ei bod yn bwysig dod o hyd i wybodaeth iechyd o ansawdd da ar-lein?

  • Gall unrhyw un bostio unrhyw beth ar-lein
  • Gall pobl fod â’r bwriad o wneud arian yn unig
  • Gall gwybodaeth iechyd o ansawdd gwael fod yn niweidiol i’ch iechyd

Gwefannau Allweddol

GIG 111 Wales
Gwasanaeth cyngor a gwybodaeth iechyd a ddarperir gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Mae’n cynnwys:

  • Gwiriwr symptomau
  • Chwilio am wasanaethau lleol
  • Gwyddoniadur
  • Adran byw yn dda
  • Swyddogaeth gofyn cwestiwn

Patient
Nod Patient yw helpu’r byd i reoli ei ofal iechyd yn rhagweithiol, gan gyflenwi gwybodaeth ar sail tystiolaeth ar ystod eang o bynciau meddygol ac iechyd i gleifion a gweithwyr iechyd proffesiynol.
Gwefan annibynnol lle gallwch chwilio am gyflyrau, symptomau a meddyginiaethau.

Iechyd yng Nghymru     
Roedd Iechyd yng Nghymru yn rhan o’r prosiect Grymuso Cleifion a Gofalwyr, i alluogi pobl yng Nghymru i chwarae mwy o ran yn eu hiechyd. Yn darparu gwybodaeth iechyd ddibynadwy.
Mae’n cynnwys gwybodaeth am:

  • Gwasanaethau iechyd lleol
  • Cyflyrau
  • Cyhoeddiadau
  • Ystadegau

Gwefannau Elusennau

Gall gwefannau elusennau fod yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol ar gyflwr.
Dyma rai gwefannau elusennau gyda nodweddion a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Health Talk
Mae gan Health Talk filoedd o fideos i’ch galluogi i glywed sut brofiad yw byw gyda chyflwr iechyd gan rywun sydd gyda chyflwr neu wedi ei gael. 

Ysbyty Great Ormond Street Hospital
Mae gan y wefan hon eiriadur iechyd sy’n egluro termau meddygol mewn ffordd syml a all fod yn ddefnyddiol i blant ddeall eu cyflwr. Mae yna adran sy’n manylu ar wahanol weithdrefnau fel bod plant yn gwybod beth i’w ddisgwyl.

Mind
Mae gan y wefan hon wybodaeth am gyflyrau iechyd meddwl, cyngor i deuluoedd a ffrindiau, ac mae ganddi adran ar gyfer plant a phobl iau.

Uwch Chwiliad Google

Yn caniatáu ichi gymhwyso terfynau i’ch chwiliad google, er enghraifft yn ôl safle neu barth
Safleoedd neu Barthau efallai yr hoffech chi eu defnyddio:

  • Mae Gwefannau’r GIG yn ffynhonnell ardderchog ar gyfer gwybodaeth iechyd
  • Gall elusennau fod yn ffynonellau gwybodaeth da ar gyflwr penodol
  • Gall Sefydliadau Academaidd fod yn ffynonellau da gan eu bod yn ymwneud â’r gwir yn hytrach na gwneud elw

  • I ddod o hyd iddo, rhowch Google advanced search yn Google
  • Rhowch yr hyn rydych yn edrych amdano yn y maes ‘yr holl eiriau hyn’, er enghraifft meigryn
  • Rhowch un o’r rhain i mewn i safle neu faes parth i’w gyfyngu i’r mathau hyn o wefannau:
  • Ar gyfer gwefannau’r GIG nodwch – nhs.uk
  • Ar gyfer elusennau nodwch – org.uk
  • Ar gyfer sefydliadau academaidd, nodwch – ac.uk

Ystyriwch y cwestiynau hyn i benderfynu a ellir ymddiried mewn gwybodaeth

Pwy? – Pwy sy’n rhedeg y wefan? Allwch chi ymddiried ynddynt?

Beth? – Beth mae’r wefan yn ei ddweud? A yw’n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir?

Pryd? – Pryd cafodd ei bostio / diweddaru? A yw’n gyfredol?

Ble? – O ble mae’r wybodaeth yn dod? A yw’n ymchwil wyddonol?

Pam? – Pam maen nhw wedi’i ysgrifennu? Ydyn nhw’n gwerthu rhywbeth?

Argymhellir eich bod yn siarad â’ch meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol os oes gennych unrhyw bryderon am eich iechyd.

Lawrlwythiadau

Cyflwyniad – Dod o Hyd i Wybodaeth Iechyd o Safon Ar-lein

Taflen – Dod o Hyd i Wybodaeth Iechyd o Safon Ar-lein

Primary Sidebar

Chwilio

Negeseuon Diweddar

Gofalwyr ifanc sy’n gofalu am oedolion â phroblemau iechyd meddwl

Plant nad ydyn nhw’n mynd i’r ysgol

Cynhwysiant Digidol

  • YN EISIAU: CYNRYCHIOLYDD TRYDYDD SECTOR CENEDLAETHOL
  • Trigolion DINBYCH – rydym eich angen chi!
  • Ffocws ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

@CoproNetWales Member logo

Copyright © 2023 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital