• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Y bobl rydyn ni’n eu cefnogi >
      • Pobl gydag anableddau dysgu
      • Gofalwyr di-dâl
      • Pobl sy’n byw gyda dementia
      • Plant a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth
      • Pobl gydag anghenion emosiynol ac iechyd meddwl
    • Sut rydyn ni’n gweithio >
      • Comisiynu
      • Gweithlu
      • Diogelu
      • Fforwm gwerth cymdeithasol
      • Digidol, data a thechnoleg
      • Mwy na geiriau
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Blog / Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: Blwyddyn o Effaith ac Arloesi ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol 

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: Blwyddyn o Effaith ac Arloesi ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol 

22/10/2024

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn parhau i drawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol drwy atebion arloesol sy’n mynd i’r afael â heriau na welwyd eu tebyg o’r blaen. Mae Adroddiad Blynyddol 2023-24 yn tynnu sylw at sut mae cydweithio strategol a chymorth wedi’i deilwra yn cyflymu arloesi sy’n achub bywydau, yn gwella ansawdd gofal, ac yn sbarduno twf economaidd ledled Cymru. 

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o ddatblygu prosiectau arloesol sy’n ail-lunio gofal iechyd. Mae ystadegau newydd yn pwysleisio enw da cynyddol Cymru fel cyrchfan flaenllaw ar gyfer arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gan ddenu buddsoddiad sylweddol a sicrhau gwelliannau amlwg wrth ddarparu gofal. 

Uchafbwyntiau Effaith 2023-24: 

  • 51,566 o gleifion wedi cael mynediad at ofal iechyd arloesol 
  • £25.4 miliwn o gynigion cyllido wedi’u cyflwyno 
  • 2,290 yn llai o ymweliadau clinigol 
  • 147 o asesiadau arloesi wedi’u cynnal 
  • 58 o swyddi wedi’u creu 
  • £5.5 miliwn o fuddsoddiad wedi’i sicrhau 
  • £1.7 miliwn o gyllid wedi’i sicrhau 
  • £3.1 miliwn o Werth Ychwanegol Gros (GVA) wedi’i ddarparu i’r economi 
  • £1.5 miliwn o werth wedi’i gynhyrchu ar gyfer y system iechyd a gofal 

Mae’r Adroddiad Blynyddol yn tanlinellu sut mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn gweithredu fel cysylltydd hanfodol ar draws meysydd iechyd, gofal cymdeithasol a diwydiant, gan sbarduno newid drwy sawl menter gyffrous sydd ar gael yn yr adroddiad. 

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, “Mae Adroddiad Blynyddol 2023-24 yn tynnu sylw at y cynnydd anhygoel sydd wedi cael ei wneud gan bartneriaid ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol a diwydiant. Gyda mwy na 50,000 o bobl yn elwa o arloesi ym maes iechyd, mae ein pwrpas yn gryfach ac yn fwy sylweddol nag erioed, ac mae balchder yn y partneriaethau rydym wedi’u meithrin i wneud Cymru’n arweinydd o ran arloesi ym maes iechyd a gofal.” 

Mae Adroddiad Blynyddol 2023-24 ar gael i’w lwytho i lawr.

Ffeiliwyd dan: Blog Tagged With: arloesi, Gofal Cymdeithasol, iechyd

Gofalwn Cymru WeCare Wales

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni

Bluesky: @hcargc.bsky.social


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

Copyright © 2026 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital

Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi ar ein gwefan.
Gallwch ddysgu mwy am ba gwcis rydym yn eu defnyddio neu eu diffodd yn y .

North Wales Collaborative
Wedi'i bweru gan  GDPR Cookie Compliance
Trosolwg preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn i ni allu rhoi'r profiad defnyddiwr gorau posibl i chi. Mae gwybodaeth cwcis yn cael ei storio yn eich porwr ac yn cyflawni swyddogaethau fel eich adnabod pan fyddwch chi'n dychwelyd i'n gwefan a helpu ein tîm i ddeall pa adrannau o'r wefan rydych chi'n eu cael fwyaf diddorol a defnyddiol.

Strictly Necessary Cookies

Dylai Cwcis Cwbl Angenrheidiol fod wedi'u galluogi bob amser fel y gallwn gadw eich dewisiadau ar gyfer gosodiadau cwcis.

Cwcis Trydydd Parti

Mae'r wefan hon yn defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth ddienw fel nifer yr ymwelwyr â'r safle, a'r tudalennau mwyaf poblogaidd.

Mae cadw'r cwci hwn wedi'i alluogi yn ein helpu i wella ein gwefan.