• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
    • Cymryd rhan
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
    • Anableddau dysgu
    • Iechyd meddwl
    • Plant a phobl ifanc
    • Gofalwyr
    • Dementia
    • Comisiynu
    • Gweithlu
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Blog / Lansiad ‘ENRICH’ Gogledd Cymru

Lansiad ‘ENRICH’ Gogledd Cymru

03/09/2018

‘Caiff ‘ENRICH Cymru’, y Rhwydwaith Galluogi Ymchwil mewn Cartrefi Gofal, ei gynnal ar y cyd gan y Ganolfan Ymchwil i Heneiddio a Dementia ac Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru.
Bwriad ENRICH Cymru yw gwella bywydau pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal ar draws Cymru drwy sefydlu rhwydwaith o gartrefi gofal ‘barod am ymchwil’ a chefnogi’r gwaith o greu ymchwil ar y cyd sy’n berthnasol i faterion cyfoes yn y sector cartrefi gofal yng Nghymru.
Caiff ENRICH Gogledd Cymru ei lansio ddydd Iau, 13 Medi 2018, 10:00 – 16:00 yng Nghanolfan Busnes Conwy. Mae’r digwyddiad yn rhoi cyfleoedd ar gyfer:

  • Rhwydweithio
  • Rhannu arfer da
  • Cyfnewid syniadau ymchwil
  • Edrych ar gynlluniau newydd mewn ymchwil ym maes gofal cymdeithasol drwy drafodaethau rhyngweithiol
  • Adeiladu cydweithio academaidd/ymarfer

Mae’r digwyddiad yn tynnu sylw at fanteision ymchwil mewn cartrefi gofal, yr hyn mae’n ei olygu i gymryd rhan a sut gall eich cartref ymwneud â hyn; gan glywed gan ymchwilwyr a staff cartrefi gofal sydd wedi cymryd rhan mewn ymchwil.

Am ragor o wybodaeth ac i gadw’ch lle i’r digwyddiad am ddim yma, cysylltwch â Gill Toms (g.toms@bangor.ac.uk) neu ffonio 01248 388463 erbyn 31/08/2018.

Ffeiliwyd dan: Blog

Gofalwn Cymru WeCare Wales

Primary Sidebar

Negeseuon Diweddar

Canolbwynt ar anabledd a salwch

YN EISIAU: Cynrychiolwyr Gofalwyr

Gofalwyr ifanc sy’n gofalu am oedolion â phroblemau iechyd meddwl

  • Plant nad ydyn nhw’n mynd i’r ysgol
  • Cynhwysiant Digidol
  • YN EISIAU: CYNRYCHIOLYDD TRYDYDD SECTOR CENEDLAETHOL

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

@CoproNetWales Member logo

Copyright © 2023 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital