• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Y bobl rydyn ni’n eu cefnogi >
      • Pobl gydag anableddau dysgu
      • Gofalwyr di-dâl
      • Pobl sy’n byw gyda dementia
      • Plant a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth
      • Pobl gydag anghenion emosiynol ac iechyd meddwl
    • Sut rydyn ni’n gweithio >
      • Comisiynu
      • Gweithlu
      • Diogelu
      • Fforwm gwerth cymdeithasol
      • Digidol, data a thechnoleg
      • Mwy na geiriau
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Blog / Lansio ap newydd i dracio ac olrhain y coronafeirws

Lansio ap newydd i dracio ac olrhain y coronafeirws

16/04/2020

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford a GIG Cymru yn apelio ar y cyhoedd yng Nghymru i lawrlwytho ap Traciwr Symptomau COVID i helpu’r GIG i ymateb i COVID-19 yng Nghymru.

Gofynnir i bobl ledled Cymru gofnodi eu symptomau dyddiol er mwyn helpu i greu darlun cliriach o sut mae’r feirws yn effeithio ar bobl. Mae’r ap ar gyfer pawb, nid dim ond y rhai sydd â symptomau. 

Wedi’i ddatblygu gan ymchwilwyr yng Ngholeg King’s yn Llundain a chwmni gwyddoniaeth gofal iechyd, ZOE, mae’r Traciwr Symptomau COVID-19 yn cael ei ddefnyddio eisoes gan fwy na 38,000 o bobl yng Nghymru, a mwy na 2 filiwn ledled y DU. Mae pobl yn defnyddio’r ap i dracio eu hiechyd dyddiol ac unrhyw symptomau COVID-19 posib. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio gan weithwyr gofal iechyd ac ysbytai.

Bydd data o ap Traciwr Symptomau COVID-19 yn cael eu rhannu’n ddyddiol gyda Llywodraeth Cymru a GIG Cymru. Bydd yn rhoi arwydd cynnar o ble fydd y derbyniadau i ysbytai yn y dyfodol. 

Bydd gwyddonwyr o Goleg King’s yn Llundain a’r Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) ym Mhrifysgol Abertawe yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddadansoddi’r data fel sail i fodelu, deall a rhagweld sefyllfa’r afiechyd fel mae’n datblygu yng Nghymru.        

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

Mae cael tystiolaeth a data amrywiol yn hanfodol er mwyn ein helpu ni i greu darlun clir o sut mae’r feirws yn ymddwyn ac yn effeithio ar fywydau pawb. Yn allweddol, gall yr ap yma ein helpu ni i ragweld ardaloedd allweddol posib ar gyfer COVID a chael gwasanaethau’r GIG yn barod yno. Rydw i’n gofyn i bawb yng Nghymru lawrlwytho’r ap Traciwr Symptomau COVID-19 newydd, er mwyn i chi allu helpu i warchod ein gweithwyr ac achub bywydau. Gyda’n gilydd fe allwn ni greu’r darlun gwyddonol gorau fel ein bod mewn sefyllfa well i frwydro yn erbyn yr afiechyd dychrynllyd yma.

Mae’r tîm ymchwil yng Ngholeg King’s yn Llundain a ZOE yn dadansoddi’r data i greu gwybodaeth newydd am yr afiechyd. Mae map rhyngweithiol sy’n dangos dosbarthiad COVID yn eu hardal ar gael i bawb yn covid.joinzoe.com yn ogystal â diweddariadau gwyddonol rheolaidd.

Dywedodd yr Athro Ymchwil Arweiniol o Goleg King’s yn Llundain, Tim Spector:

Mae data amser real manwl gywir yn hanfodol os ydyn ni am drechu’r afiechyd yma. Heb brofi manwl gywir ac eang mae’n hanfodol bod gennym ni gymaint o ddata â phosib i’n helpu ni i ragweld ble rydyn ni’n mynd, i weld y cynnydd nesaf o ran galw, fel bod modd defnyddio adnoddau’n effeithiol yn barod i ddiwallu anghenion y cleifion. Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru a GIG Cymru yn gam eithriadol bositif i’r cyfeiriad cywir ac rydyn ni’n gobeithio gweld grwpiau eraill y GIG yn ymuno â ni yn ystod y dyddiau nesaf. 

Hoffem fanteisio ar y cyfle yma i ddiolch i bob un person sydd eisoes yn cymryd rhan a byddem yn annog pawb arall i lawrlwytho’r ap a mewngofnodi bob dydd, os oes gennych chi unrhyw symptomau neu os ydych chi’n teimlo’n iach.

Mae’r ap ar gael i’w lawrlwytho o App Store Apple a Google Play o’r dolenni yn covid.joinzoe.com. 

Mae mapiau symptomau dyddiol a chynnwys arall ar gael drwy https://covid.joinzoe.com/blog 

Ffeiliwyd dan: Blog, covid-19-cy

Gofalwn Cymru WeCare Wales

Primary Sidebar

Negeseuon Diweddar

Cynrychiolydd Gofalwyr BPRh

Arddangosfa ddigidol: yr hyn a ddysgwyd gennym

Arganddosfa Gofal Cymdeithasol Digidol Gogledd Cymru 2025

  • Cynllun Cymunedau sy’n Deall Dementia Gogledd Cymru
  • Llwybr Cymorth Cof Gogledd Cymru – pa gymorth sydd ar gael?
  • Gwobrau Cyfranogiad Cymdeithas Alzheimer – Llwybr Cymorth Cof Gogledd Cymru 2024

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni

Bluesky: @hcargc.bsky.social


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

Copyright © 2025 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital