Yn ddiweddar, tynnodd Gofal Cymdeithasol Cymru sylw at brofiadau dau gyflogwr gofal sydd wedi elwa ar gymorth Cymraeg wedi’i deilwra yn y gweithle. Mae eu straeon yn dangos yr effaith gadarnhaol y gall y cymorth hwn ei chael ar hyder staff, ansawdd gwasanaethau a darpariaeth y Cynnig Rhagweithiol.
Trwy eu partneriaeth â’r Ganolfan Genedlaethol rydym yn ariannu tri thiwtor Cymraeg yn y gweithle ledled Cymru sy’n darparu cymorth uniongyrchol i gyflogwyr a’u staff. Eu rôl yw helpu gweithwyr i wneud y gorau o’r sgiliau Cymraeg sydd ganddynt eisoes, boed yn ddechreuwyr, yn ddysgwyr neu’n siaradwyr mwy hyderus, a’u hannog i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn eu gwaith bob dydd.
Mae’r cymorth hwn wedi bod yn arbennig o lwyddiannus yn Sir y Fflint a Sir Ddinbych, lle mae cyflogwyr wedi nodi manteision sylweddol i staff ac i’r bobl y maent yn eu cefnogi.
Yn y fideos byr hyn, mae Abbie Edwards o Haulfryn Care a Leah Davies o Elm Residential Care Home (MHC) yn esbonio sut mae cymorth Cymraeg wedi’i deilwra wedi helpu eu timau i nodi sgiliau presennol, magu hyder a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.
Mae eu profiadau’n dangos bod cefnogi datblygiad y Gymraeg yn ymarferol, yn gyflawnadwy ac yn cynnig manteision gwirioneddol. Mae staff yn teimlo’n fwy hyderus wrth gyfathrebu yn Gymraeg, tra bod y bobl sy’n derbyn gofal yn teimlo eu bod yn cael eu deall yn well, yn fwy cyfforddus ac yn fwy cysylltiedig â’u hiaith, eu hunaniaeth a’u diwylliant.
Oes gennych ddiddordeb mewn cymorth i’ch sefydliad?
Os yw eich sefydliad wedi’i leoli yn Sir y Fflint neu Sir Ddinbych ac yr hoffech gael gwybod mwy am dderbyn cymorth gan ein tiwtor Cymraeg yn y gweithle, cysylltwch â ni. Mae’r cymorth wedi’i gynllunio i helpu sefydliadau i ddeall sgiliau Cymraeg eu gweithlu, nodi cyfleoedd i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg a datblygu camau ymarferol i gefnogi darpariaeth y Cynnig Rhagweithiol.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Sandie Grieve ar sandie.grieve@gofalcymdeithasol.cymru
