Gwella iechyd a lles pobl a chymunedau gyda’n gilydd
Hoffem gymryd yr amser hwn i’ch diweddaru ar y ffyrdd creadigol ac arloesol o gefnogi pobl Gogledd Cymru.
Tîm Trawsnewid Anabledd Dysgu
Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd: Y Rhaglen Trawsnewid Anabledd Dysgu.
Mae’r prosiect wedi bod ar waith ers 2019 a’i nod yw sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu yn gallu byw bywyd gwych.
Newid Cymunedol a Diwylliannol
Model Cyflenwi Amgen (MCA) – Yn gynharach yn yr haf rhoddwyd grantiau i nifer o brosiectau cymunedol trwy Banel Dinasyddion, mae’r aelodau panel hyn wedi derbyn hyfforddiant ac maent bellach yn barod i ddilyn i fyny a darparu gwiriadau ansawdd ar y cynnydd sy’n cael ei wneud.
Rydym wedi cychwyn Prosiect Llais a Rheoli (Voice & Control Project) newydd, rydym yn bwriadu cyflogi Llysgenhadon Llais a fydd yn gallu helpu i hyfforddi staff ac a allai hefyd chwarae rôl wrth wirio bod gan bobl lais a’u bod yn ymwneud yn wirioneddol â gwneud penderfyniadau am eu bywyd. Hefyd y mis hwn cynhaliom ddigwyddiad dros Zoom yn edrych ar fapio ein llwybr ar gyfer y dyfodol, fe helpodd Fran O’Hara ni i gofnodi barn pobl, roedd yn fore cyffrous gyda rhai syniadau gwych.
Grwp Facebook Trawsnewid AD
Mae’r grŵp hwn yn parhau i dyfu ac mae dau unigolyn yn parhau i gynhyrchu cyfweliadau byw cyffrous ar Facebook. I wylio ymwelwch â’n tudalen Facebook Learning.disability.transformation@flintshire.gov.uk
Technoleg
Rydym wedi bod yn gweithio gyda Digital Community Wales ac ar hyn o bryd rydym yn dosbarthu tabledi wedi’u llwytho ymlaen llaw ar draws y rhanbarth. Mae’r Llyfrgell Tech ar waith yn benthyca offer, fel clustffonau VR, gwylio synhwyrydd a dyfeisiau Alexa fel y gall pobl roi cynnig arnyn nhw. Hefyd wedi cael ei lansio dros yr haf mae’r sesiynau galw heibio rhithwir:
Mae’r rhain ar brynhawn Mercher, maen nhw’n edrych i ddechrau rhai sesiynau wyneb yn wyneb dros y mis nesaf, os yw sefyllfa Covid yn caniatáu.
Rydym eisiau clywed gennyt TI!
Asesiad Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru
Wyt ti o dan 25 ac yn defnyddio neu ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth yng Ngogledd Cymru? Fe hoffem ni gael gwybod dy farn di am y gofal a’r cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd, a sut y gellid ei wella.
Os byddai’n well gennyt ti ateb y cwestiynau dros y ffôn, cysylltwch gyda Eluned Yaxley ar 01824 712041. Os hoffet gysylltu â ni’n defnyddio dehonglydd Iaith Arwyddion Prydeinig, gallet neud hynny drwy ddefnyddio Gwasanaeth InterpretersLive!, a ddarperir gan Sign Solutions. Darperir fersiynau drwy EasyRead; ac gellir ei brintio hefyd er hwylustod i ti.
Mae angen iti lenwi’r arolwg erbyn 11 Hydref 2021.
Llenwa’r arolwg ar-lein YMA
MAE DY LAIS DI’N BWYSIG
Bwrdd Gweithlu Gogledd Cymru
Mae ein gwerthfawrogiad o’r sector Gofal Cymdeithasol yn enfawr. Mae’r flwyddyn a hanner ddiwethaf wedi bod yn anodd i lawer ar gymaint o wahanol lefelau, ond mae’r unigolion hyn yn rhoi eu bywydau ar y lein bob dydd i wneud i bobl eraill wenu.
O Weithwyr Cymdeithasol i Weithwyr Gofal Gartref, i gogyddion mewn Cartrefi Preswyl lleol, Therapyddion Galwedigaethol a phopeth arall rhyngddynt – mae’r gwaith rydych wedi’i wneud wedi bod yn amhrisiadwy. Mae tîm Gofalwn Gogledd Cymru yn cydnabod yr aberthau rydych chi wedi’u gwneud er mwyn helpu eraill. Oddi wrthym ni i chi, diolch.
Ydych chi am wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl eraill? Oes gennych chi galon fawr? Ydych chi’n gweithio’n galed? Ydych chi’n berson cymdeithasol?
Os felly, rhwng 11-17 Hydref, bydd Wythnos Gofalwn Cymru yn rhannu sut beth yw gweithio ym maes gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant. Gan dynnu sylw at yr amrywiaeth o swyddi sydd ar gael, byddwn yn cynnal digwyddiadau i gefnogi ceiswyr gwaith, gweithwyr a chyflogwyr ledled Gogledd Cymru i weld pa gyfleoedd gyrfa sydd ar gael i chi. Siaradwch â chyflogwyr sy’n chwilio am unigolion tosturiol a brwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac neilltuo amser i eraill. Archwiliwch yr amrywiaeth o rolau sydd ar gael ynghyd â’r opsiynau sydd ar gael ar gyfer dilyniant. Ymunwch â thîm o bobl sydd wedi dangos sut i oroesi mewn cyfnod o argyfwng.
Wythnos Diogelu Cenedlaethol 15 – 19 Tachwedd 2021
“Gyda’n gilydd gallwn gadw pobl yn ddiogel” yw’r neges allweddol i holl drigolion Cymru wrth i Fyrddau Diogelu ledled Cymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol lansio Wythnos Genedlaethol Diogelu ar 15fed – 19eg Tachwedd.
Gan weithio gyda phartneriaid ym maes iechyd, y gwasanaethau brys, y trydydd sector ac eraill, mae’r Bwrdd yn bwriadu codi ymwybyddiaeth o’r hyn y mae diogelu’n ei olygu a’r nifer o sefyllfaoedd y gall godi ynddynt.
Ymunwch â ni ar gyfer digwyddiadau amrywiol yn ystod yr wythnos Diogelu yn ogystal â thrwy gydol y flwyddyn – mae mwy o wybodaeth ar gael YMA
Blaenoriaethau Cyfredol ar gyfer Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
Ein blaenoriaethau a’n ffocws ar gyfer y tymor byr a’r tymor hir:
- Pobl hŷn ag anghenion cymhleth a chyflyrau tymor hir gan gynnwys dementia
- Iechyd meddwl
- Pobl ag anableddau dysgu
- Plant a phobl ifanc
- Gofalwyr, gan gynnwys gofalwyr ifanc
Cymryd Rhan
Gadewch inni gymryd camau cadarnhaol gyda’n gilydd i sicrhau bod pobl yn derbyn y gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles gorau ledled Gogledd Cymru.
Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn ddeall pa wasanaethau sydd angen eu gwella neu eu creu. Felly p’un a ydych chi’n byw, neu’n gweithio yn yr ardal, cymerwch ran.
Am fwy o wybodaeth ar waith
Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gogledd Cymru,
ewch i CydweithredfaGogleddCymru
ebost: northwalescollaborative@denbighshire.gov.uk ffôn: 01824 712432
