Mae dyn sy’n byw gyda dementia, a gofalwr, wedi creu fideos i siarad am y cymorth maen nhw’n ei gael gan Dîm Llwybr Cymorth Cof Gogledd Cymru, sydd wedi ennill gwobrau.
Mewn digwyddiad i ddathlu eu cyfranogiad yn Ninbych ddoe (dydd Mercher), bu David Glover a Doris Hughes yn annog pobl eraill ar draws gogledd Cymru y mae dementia yn effeithio arnynt i gysylltu a chael mynediad at y gwasanaeth.
Bydd un o bob tri o bobl a gaiff eu geni heddiw yn datblygu dementia yn ystod eu hoes. Yn ôl data Llywodraeth Cymru, mae o leiaf 42,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghymru.
Mae Llwybr Cymorth Cof Gogledd Cymru yn cefnogi pobl sy’n poeni am eu cof, pobl sy’n byw gyda dementia a’u ffrindiau, teulu ac anwyliaid. Caiff ei ddarparu trwy bartneriaeth rhwng Cymdeithas Alzheimer’s, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru, NEWCIS a Chynnal Gofalwyr, a’i ariannu gan Fwrdd Iechyd Gogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a 6 Awdurdod Lleol Gogledd Cymru.
Yn y fideos, sydd yn Gymraeg a Saesneg, mae David a Doris yn sôn am eu profiadau a sut mae’r Llwybr wedi’u cefnogi nhw. Enillodd y Llwybr Wobr Cyfranogiad Dementia gan Gymdeithas Alzheimer’s ym mis Medi.
Mae David, sy’n byw gyda dementia, yn rhannu ei brofiad o gael ei atgyfeirio i’r Clinig Cof trwy’r Llwybr. Yn y fideo, mae David yn siarad Saesneg, gydag is-deitlau Cymraeg.
Dywedodd: “Roeddwn i’n disgwyl y gwaethaf. Pan fyddwch chi’n clywed Clinig Cof, mae’n dod â phob math o bethau negyddol i’r meddwl, fel pobl yn eistedd mewn cadair yn rhywle yn eu byd bach eu hunain. Roeddwn i’n disgwyl gweld rhywun yn taro eu pen yn erbyn wal. Pan gyrhaeddais i, pobl fel fi oedden nhw. Roeddwn i’n meddwl fy mod i wedi cerdded i mewn i’r ystafell anghywir. Fe welais i normalrwydd, nid criw o bobl yn eu byd bach eu hunain.”
Mae Doris, sy’n ofalwr, a’i gŵr sy’n byw gyda dementia, yn mynychu’r Ganolfan Dementia yn Ninbych, sy’n rhan o’r Llwybr a dyma lle cynhaliwyd y dathliad.
Siaradodd Doris yn Gymraeg, gydag is-deitlau Saesneg: “Rydym ni’n mynd i gael cwmni yn fwy na dim, a chyfle i sgwrsio gyda phobl sy’n mynd trwy’r un peth. Mae rhai yn waeth o lawer, dw i’n clywed straeon am bobl sy’n dioddef yn ofnadwy, ond rydym ni’n iawn. Mae’r staff yn y ganolfan yn dda am sgwrsio, ac nid oes unrhyw beth yn ormod o drafferth iddyn nhw.”
Trwy rannu eu straeon, mae David a Doris yn gobeithio hyrwyddo’r gwasanaeth, sy’n darparu cyngor, canllawiau a chefnogaeth dementia, a’r cyfle i gwrdd ag eraill sy’n byw gyda dementia, mewn amgylchedd diogel a chyfeillgar.
Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Lleol Cymdeithas Alzheimer’s, Emma Spragg: “Rydym yn falch o fod yn darparu Llwybr Cymorth Cof Gogledd Cymru ar y cyd, sy’n darparu cefnogaeth i gymaint o bobl yng Ngogledd Cymru y mae dementia’n effeithio arnyn nhw. Rydym yn gweithio’n ddi-dor i sicrhau bod pobl sy’n byw gyda cholli cof neu gyda diagnosis o ddementia, a’u gofalwyr a’u teulu, yn cael y gefnogaeth gywir ar yr adeg gywir.
“Byddwn yn rhoi cyngor a chanllawiau ymarferol ar gyfer y camau nesaf wrth i bobl sy’n byw gyda dementia fynd trwy’r cyfnodau anoddaf o’u bywydau. Trwy’r gwaith hanfodol hwn, rydym am i bobl sy’n byw gyda dementia fwynhau eu bywydau gyhyd ag sy’n bosibl.”
I gael eich atgyfeirio at Lwybr Cymorth Cof Gogledd Cymru, ffoniwch Ymddiriedolaeth Gofalwyr ar 01492 542212.
Alzheimer’s Society Cymru is here for everyone affected by dementia. Call their Support Line on 0333 150 3456, if you speak Welsh call the Welsh-speaking support line on 03300 947 400, neu ewch i alzheimers.org.uk
- Cymdeithas Alzheimer’s yw elusen dementia flaenllaw y DU. Rydym yn darparu help a gobaith i bawb y mae dementia’n effeithio arnyn nhw – yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.
- Mae dementia yn difetha bywydau, ond nid yw’n rhan annatod o heneiddio. Mae ymchwil a gynhaliwyd gan Gymdeithas Alzheimer’s yn dangos bod gan oddeutu un filiwn o bobl yn y DU fath o ddementia. Erbyn 2040, bydd 1.4 miliwn o bobl yn byw gyda’r cyflwr yn y DU, a bydd yn cael effaith fawr ar filiynau o ofalwyr, partneriaid, teuluoedd a ffrindiau.
- Dementia yw prif achos marwolaethau yn y DU, a bydd un o bob tri o bobl a gaiff eu geni heddiw yn datblygu dementia yn ystod eu hoes.
- Mae gormod o bobl yn wynebu dementia ar eu pen eu hunain. Mae Cymdeithas Alzheimer’s am i bawb y mae dementia’n effeithio arnyn nhw wybod bod modd iddynt droi atom ni i gael cymorth arbenigol, pwy bynnag ydyn nhw, beth bynnag maen nhw’n mynd trwyddo, a gallwn ddarparu cyngor ymarferol, cefnogaeth emosiynol a chanllawiau o ran y cam gorau nesaf.
- Cymdeithas Alzheimer’s yw’r unig elusen ymchwil dementia yn y DU sy’n ariannu gwaith ymchwil biofeddygol a gofal, ariannu gwaith ymchwil i ddiagnosis dementia, triniaeth a gofal, ac sy’n bartner ariannu i Sefydliad Ymchwil Dementia y DU.
- Ein nod yw sicrhau bod pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr yn byw bywydau llawnach â llai o ofn, heb stigma ac anghydraddoldeb.
- Mae Cymdeithas Alzheimer’s yn cynnig cymorth cyfeillgar trwy amrywiaeth o wasanaethau ar-lein a phersonol, gan gynnwys ein Llinell Gymorth Dementia (0333 150 3456), ein Fforwm Cymorth Dementia ar-lein a’n Hymgynghorwyr Dementia.
- Mae Cymdeithas Alzheimer’s yn dibynnu ar gyfraniadau gwirfoddol er mwyn parhau â’n gwaith hanfodol. Gallwch gyfrannu nawr trwy ffonio 0330 333 0804 neu trwy fynd i alzheimers.org.uk
- Dilynwch ni ar Twitter ac Instagram @Alzheimerssoc a Hoffwch ni ar Facebook.
- Sianel YouTube Cymdeithas Alzheimer’s youtube.com/AlzheimersSociety
