Mae Social Value Cymru yn rhan o Mantell Gwynedd ac yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chynghorau Gwirfoddol Sirol Gogledd Cymru. Yn rhan o’r prosiect, rydym yn cynnig gweithdai ar gyfer mudiadau trydydd sector ac hefyd staff o’r sector gyhoeddus a gall elwa.
Mi fydd y gweithdai yn:
- Cyflwyno gwerth cymdeithasol a pham ei fod yn bwysig
- Dysgu am y camau cyntaf i fesur eich effaith gymdeithasol gan edrych ar y 10 cwestiwn effaith
- Rhannu adnoddau a thrafod cyfleoedd i fudiadau i ddangos eu heffaith
Bydd yr hyfforddiant yn cymryd lle ar y dyddiadau canlynol:
21ain a 26ain Mawrth, Clwb Rygbi, Bangor (9:30 -12:30)
28ain Mawrth – Swyddfa AVOW, Wrecsam (9:30 – 12:30)
9fed Ebrill – Cartrefi Conwy, Abergele (9:30 -12:30)
Am ragor o fanylion yna cysylltwch ag Elaine ar 01286 672 626 neu elaine.thomas@mantellgwynedd.com
Er mwyn archebu lle e-bostiwch ellen@mantellgwynedd.com