Arolwg Rheolwyr
Mae mwy a mwy o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn symud ar-lein, ac mae gofyn i’n staff ddefnyddio mwy a mwy o dechnoleg ddigidol fel rhan o’u gwaith bob dydd.
Mae gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru ddiddordeb deall y gofynion o ran technoleg ddigidol, yn ogystal â’r mynediad ati, ymysg pobl sy’n gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, yn cynnwys y rhai sy’n gweithio i ddarparwyr gofal cartref, preswyl a nyrsio annibynnol, a byw â chymorth.
Mae’r wybodaeth hon yn bwysig inni gan y bydd yn ein cynorthwyo i lunio’r gefnogaeth a rown ar draws y sector, a pha gynlluniau sydd angen eu gweithredu er mwyn sicrhau bod ein gweithlu’n teimlo’n hapus ac yn hyderus wrth ddefnyddio technoleg ddigidol wrth eu gwaith.
Byddem yn ddiolchgar pe gallech roi o’ch amser i ateb yr arolwg byr hwn er mwyn ein cynorthwyo i ddeall yn well i ba raddau y mae technoleg ddigidol yn cael ei defnyddio, y rhwystrau a wynebir, a’r lefel a’r math o gefnogaeth y mae ei hangen wrth symud ymlaen, o safbwynt rhywun mewn swydd reoli. Mae holiadur tebyg wedi’i ddatblygu hefyd, ac mae hwnnw’n cael ei rannu â staff gweithredol.
Sylwch fod y wybodaeth a roddwch yn yr holiadur hwn yn gwbl gyfrinachol. Rhennir y canlyniadau â phartneriaid Partneriaeth Ranbarthol Gogledd Cymru. Bydd unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn neu Ddarparwr yn cael ei gwneud yn anhysbys.
Hoffwn ddiolch ichi am roi o’ch amser i lenwi’r holiadur hwn.
Os hoffech dderbyn copiau papur, ffoniwch 01824 712536 / 01824 712432