• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Y bobl rydyn ni’n eu cefnogi >
      • Pobl gydag anableddau dysgu
      • Gofalwyr di-dâl
      • Pobl sy’n byw gyda dementia
      • Plant a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth
      • Pobl gydag anghenion emosiynol ac iechyd meddwl
    • Sut rydyn ni’n gweithio >
      • Comisiynu
      • Gweithlu
      • Diogelu
      • Fforwm gwerth cymdeithasol
      • Digidol, data a thechnoleg
      • Mwy na geiriau
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Blog / Sut mae Mapio Effaith Ymledol wedi creu cysylltiad yn fy ngwaith

Sut mae Mapio Effaith Ymledol wedi creu cysylltiad yn fy ngwaith

12/11/2024

Beth yw Mapio Effaith Ymledol?

Mae Mapio Effaith Ymledol yn ddull gwerthuso sy’n helpu i edrych ar y ffyrdd rydym yn gweithio, canlyniadau ein gwaith, a’r straeon a adroddwn. Mae’n ffordd o ddychmygu’r siwrnai a’r camau a gymerwn i gyflawni’r nodau a osodwn, yn ogystal â’r holl wersi a ddysgwyd, ac unrhyw fylchau ar hyd y ffordd.

Pam Mapio Effaith Ymledol?

Mae pobl yn unigryw, sy’n golygu bod rhaid i’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sy’n eu cefnogi allu addasu a chanolbwyntio ar yr unigolyn. Efallai na fydd yr hyn sy’n gweithio i un unigolyn yn gweithio i rywun arall.  Mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn aml yn gweithio mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy’n golygu bod y gefnogaeth a roddant yn aml yn gallu bod yn bwrpasol. Gall fod yn anodd nodi beth mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ei wneud ar daenlen neu gyda rhifau’n unig. Felly, rydym yn edrych ar ffyrdd newydd o werthuso gwasanaethau a chofnodi’r gwaith anhygoel a wnânt i’r bobl a gefnogant. Rydym yn credu fod Mapio Effaith Ymledol yn ddull gwerthuso effeithiol ac yn nodi’r siwrnai gyfan. 

Sut rydym wedi bod yn defnyddio Mapio Effaith Ymledol?

Rydym wedi bod yn defnyddio Mapio Effaith Ymledol i gefnogi gwasanaethau a ariennir gan y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol i werthuso’r gwaith a wnânt ar gyfer eu hadroddiadau i Lywodraeth Cymru.

Fy mhrofiad gyda Mapio Effaith Ymledol.

Mae defnyddio Mapio Effaith Ymledol fel dull gwerthuso wedi rhoi cyfle i mi fynd at wasanaethau a chwrdd â thimau ledled Gogledd Cymru. Mae’n werthfawr iawn rhoi wynebau i enwau a chreu cysylltiadau cryfach gyda phobl rwyf wedi bod yn gweithio gyda nhw ar lein-yn unig.

Bu’n bleser helpu i hwyluso’i gweithdai Mapio Effaith Ymledol a gweld y timau yn datblygu dealltwriaeth, eglurder a gwerthfawrogiad o’r gwaith a wnânt a gweld yr holl rannau manwl o’u gwasanaeth. Rwyf wedi mwynhau gweld pobl yn gwerthfawrogi rhai o’r camau llai a gymerant i gyflawni canlyniad neu nod. Yn aml y camau llai hynny (megis eistedd gyda rhywun a gwneud paned o de) sydd wedi arwain at gysylltiadau cryfach a gwell cyfathrebu. 

I mi’n bersonol rwyf wedi cael gwell dealltwriaeth o’r gwasanaethau rwy’n eu cefnogi. Rwy’n gweld y natur ddynol, y calonnau a’r angerdd y tu ôl i’r rhifau, adroddiadau ysgrifenedig a’r astudiaethau achos rwy’n eu cael. Rwy’n gwybod bod y broses wedi fy ngwneud yn well swyddog gwerthuso ac yn fwy medrus i ysgrifennu adroddiadau sy’n rhoi gwell darlun o’r gwasanaethau a’r gwaith a wnânt.

A allaf ddefnyddio Mapio Effaith Ymledol?

Wrth gwrs! Os hoffech fwy o wybodaeth am Fapio Effaith Ymledol, cysylltwch â ni ar: NWRICH@denbighshire.gov.uk

Ffeiliwyd dan: Blog

Gofalwn Cymru WeCare Wales

Primary Sidebar

Negeseuon Diweddar

Arganddosfa Gofal Cymdeithasol Digidol Gogledd Cymru 2025

Cynllun Cymunedau sy’n Deall Dementia Gogledd Cymru

Llwybr Cymorth Cof Gogledd Cymru – pa gymorth sydd ar gael?

  • Gwobrau Cyfranogiad Cymdeithas Alzheimer – Llwybr Cymorth Cof Gogledd Cymru 2024
  • Arddangosfa Gofal Cymdeithasol Digidol Gwahoddiad i bobl sy’n defnyddio gofal cymdeithasol, a’u ffrindiau a’u teulu
  • Canolfannau Dementia Gogledd Cymru

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni

Bluesky: @hcargc.bsky.social


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

Copyright © 2025 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital