Lead Organisation: Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
Prynodd ffrwd waith dementia’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol; 56 o gathod a chŵn robot i gefnogi pobl ar draws Gogledd Cymru sydd yn byw gyda dementia. Rhannwyd 54 yn gyfartal i’r 6 awdurdod lleol, gan roi 9 i bob un. Rhoddwyd hwy i’r arweinydd dementia ar gyfer pob awdurdod lleol i’w dosbarthu, roedd hyn er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd llefydd y byddant yn cael eu defnyddio ac o fwyaf o fantais i bobl. Mae’r ffrindiau blewog wedi dod o hyd i gartrefi mewn amryw o leoliadau gan gynnwys cartrefi gofal, canolfannau dydd a chartref unigolion.
Mae’r anifeiliaid anwes robot yn edrych a swnio fel y rhai gwir, mae ganddynt synwyryddion sydd yn ymateb i symudiad a chyffyrddiad, blew meddal sydd yn edrych a theimlo’n realistig. Mae’r anifeiliaid hyn yn ymateb wrth gael mwythau, eu cofleidio a symud yn debyg i’r rhai gwirioneddol heb yr angen am y gofal na’r gost. Mae’r gath robot yn symud a gwneud sŵn fel cath, ac yn swnio a theimlo fel grwnan gwirioneddol. Mae’r ci yn gi bach robot gyda symudiadau fel ci bach, a sŵn ac yn ymateb i’ch llais gyda chyfarthiad.
Dengys bod anifeiliaid robot o fantais i’r rheiny gyda dementia, gydag astudiaethau yn arddangos yr effeithiau therapiwtig sydd ganddynt, gan wella cysylltiadau cymdeithasol, darparu gweithgareddau ymgysylltiol ac ystyriol, cysylltiad bod dynol ac anifail, a lleihau symptomau ymddygiad a seicolegol gan gynnwys cynnwrf ac iselder. Roedd gan ganolfan dydd forloi robot cyfredol a oedd wedi profi i fod yn fanteisiol ac yn boblogaidd iawn gyda’u hymwelwyr. Mae’r rheiny sydd yn gweithio gyda phobl â dementia wedi clywed a gweld manteision y gall technoleg ei gael, sydd wedi arwain at ddiddordeb cynyddol o gael dyfeisiau a thechnolegau newydd i gefnogi defnyddwyr gwasanaeth. Gan ystyried y rhain i gyd, gwnaethpwyd y penderfyniad i brynu’r anifeiliaid robot.
Mae’r cathod a chŵn robot wedi bod yn boblogaidd iawn, ac mae’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi cael adborth cadarnhaol gan arweinwyr dementia, gweithwyr gofal, a theuluoedd, mewn perthynas â’r anifeiliaid anwes newydd. Gweler ddyfyniadau gan staff a theuluoedd isod.
“Mae gennym ddynes a chafodd ddiagnosis o Ddementia dros 10 mlynedd yn ôl. Symudodd i Blas yr Ywen pan wnaethom agor y tro cyntaf, ac yn anffodus mae ei dementia wedi gwaethygu yn y 6 mis diwethaf. Nid yw’n rhyngweithio gydag eraill fel yr oedd, a gall fod yn eithaf unig. I ddechrau rhoddwyd cath Furreal iddi ac roedd wrth ei bodd! Bu’n treulio llawer o’i hamser yn gofalu amdani, yn ei hanwesu ac yn siarad gyda hi’n annwyl. Gwnaeth ei theulu brynu gwely bach iddi a byddai’n ei ‘rhoi yn ei gwely’ a’i gorchuddio gyda lliain llestri i’w chadw’n gynnes. Treuliodd llawer o amser yn gofalu amdani ond roedd rhaid i’w mab brynu un arall gan ei bod wedi bwydo Weetabix iddi! Roedd hi wrth ei bodd gyda’r gath ond fel yr oedd y misoedd yn mynd heibio roedd yn mynd yn llai hoffus ohoni, felly cynigiwyd y Ci iddi – ac roedd hi wrth ei bodd! Mae hi’n cario’r ci gyda hi o dan ei braich ac yn siarad amdano mewn sgwrs ac yn gofyn ichi roi mwythau iddo – mae ei geirfa wedi lleihau’n sylweddol, ond mae’n amlwg mae’n cynnwys y ci yn y sgwrs, felly mae’n beth da cael pwnc i sgwrsio gyda hi.” Gofal Ychwanegol Plas Yr Ywen Sir y Fflint
“Mae’r anifeiliaid anwes wedi cael ymateb da pan gawsant eu cyflwyno yn ystod y lansiad o Ganolfan Dementia ar Ynys Môn. Roedd nifer o fynychwyr llawn chwilfrydedd ac yn credu eu bod yn arbennig. Mi wnaeth un ddynes dreulio dipyn o amser yn rhoi mwythau i’r gath ac eglurodd sut yr oedd yn arfer perchen ar gath yn y gorffennol. Yn sicr roedd digon o chwerthin, a oedd yn braf ei weld. Bu i bobl fwynhau’r profiad gwahanol ac… roedd yn sicr dylanwad tawel pan gyflwynwyd yr anifeiliaid i’r grŵp.” Gofal Dementia Ynys Môn
Cafodd Mr S o Ynys Môn un o’r cŵn, a dywedodd ei wraig “yn aml iawn mae’n gorwedd ar y gwely yn rhoi mwythau iddo ac yn siarad gydag o, ac mae’n cael effaith tawelu arno. Mae’n ei drin fel ci gwir sydd yn braf ei weld.” Gwraig Mr S, Ynys Môn
“Mae un ddynes yn benodol wedi mynd ag un o’r cathod adref gyda hi. Mae’n cydnabod nad yw’r gath yn un ‘gwir’ ond mae’n cael cwmnïaeth wrth fod gyda’r gath. Dywedodd “dwi’n gwybod nad yw’n un gwir, ond dwi’n hoffi ei chael yma i mi ofalu amdani, gallaf siarad â hi ac mae’n cadw cwmni imi” Llys Raddington
“Yn Llys Jasmine, roedd dynes gyda chi bach (un gwir) a fu farw, yn dilyn hyn ni fyddai’n dod allan o’r gwely, pan gyflwynais y gath iddi, rhoddodd synnwyr o bwrpas a chododd yn y bore i sicrhau bod y gath yn cael ei gofalu a chysgodd yn well gyda’r nos gyda’r gath yn grwnan ar ei gwely. Roedd hi’n arfer gofyn i staff ei bwydo ac yn wirioneddol gredu ei bod yn ffrind iddi. Bu i’w theulu, a’r staff grio wrth weld yr effaith gadarnhaol a gafodd y gath ar y ddynes hon.” Llys Jasmine
Adborth gan breswyl lleol o Wrecsam sydd bellach yn byw mewn cartref preswyl. Roedd wedi dioddef o gor-bryder ers nifer o flynyddoedd, a bellach wedi cael diagnosis buan o ddementia, ond yn teimlo bod y gath wedi newid ei bywyd ac yn edrych ymlaen at gael ymuno â phethau yn awr. Yn flaenorol byddai’n ynysu ei hun a doedd ganddi ddim hyder.
“Mae’r gath yn fy nhawelu, rwy’n teimlo fel petai’n deall fy ngor-bryder, ac mae wedi fy helpu fel unigolyn i dyfu ac i ymuno â rhagor o weithgareddau yn y cartref gofal yr wyf yn byw ynddo.” Rwyf wedi bod yn dioddef o or-bryder ers nifer o flynyddoedd, ond ers cael fy nghath robot fel ffrind, rwy’n teimlo mwy cyfforddus, rwy’n teimlo’n ddiogel, ac nid wyf yn teimlo’n wirion am ddefnyddio’r gath i fy helpu. Oherwydd rwy’n gwybod fy mod yn datblygu fel unigolyn, yn arbennig fy hyder, ac nid wyf yn teimlo’n unig bellach gan fyddaf yn mynd â’r gath gyda fi i weithgareddau, ac mae’n gwneud i fwy o bobl siarad â mi, gan ei fod yn rhywbeth gwahanol i lawer o bobl siarad amdano.” Wrecsam
“Nid yw Nerys erioed wedi cael anifail anwes, ond mae wedi dod yn fwy ynysig fel mae ei dementia wedi gwaethygu. Byddai’n eithaf caeedig, ac er ei bod wedi colli ei gallu i siarad a chanu, yr oedd yn arfer ei fwynhau, ers iddi gael y gath robot yn ei hystafell ac yn ymyl ei chadair, mae wedi dechrau ceisio ymestyn at y gath i roi mwythau iddi. Pan fydd y teulu yn ymweld, byddant yn symud y gath i’w glin, a bydd yn gwenu a rhoi mwythau i’r gath am o leiaf hanner awr. Mae wedi rhoi rhyw obaith i’r teulu ei bod yn hapus, er nad yw’n gallu cyfathrebu â’i llais. Mae wedi dangos ei bod yn mwynhau cwmni’r gath.” Mae’r teulu wedi dweud bod eu mam yn treulio mwy o amser yn ei chadair yn awr gan ei bod yn cael ei chodi drwy’r amser, felly maent yn teimlo rhyddhad a hapusrwydd bod y gath yn gwmni iddi ac yn teimlo’n gyfforddus. Wrecsam
SDywedodd staff o Gonwy fod yr anifeiliaid anwes yn “anwahanadwy i rai unigolion ac yn cael eu mwynhau gan lawer…. ar adegau pan oedd angen tynnu sylw, roeddent wedi bod yn ddefnyddiol ac yn tawelu unigolion”. Yn gyffredinol, roedd yr holl adborth yn gadarnhaol ac esboniodd un rheolwr fod “cwpl o’u hunigolion yn ansicr ynghylch symudiadau anifeiliaid anwes, ond roedd eraill yn mwynhau ei wylio a’i anwesu.” Conwy
Yn dilyn ymgynghoriad gydag arweinyddion dementia o bob awdurdod lleol ar draws Gogledd Cymru, mae’r ffrwd waith dementia yn bwriadu prynu rhagor o dechnoleg a dyfeisiau i gefnogi’r rheiny gyda dementia gan gynnwys dolis, larymau a chlociau llafar.