Lead Organisation: Gweithredu dros Blant, Credu, Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd-ddwyrain Cymru
Her / Problem
Mae nifer y gofalwyr ifanc yn y Deyrnas Gyfunol yn bedair gwaith mwy na’r hyn a gydnabyddir yn swyddogol (BBC, 2010). Ymhob cymuned mae yno arwyr ifanc nad ydynt yn cael y clod haeddiannol. Mae pob gofalwr ifanc yn wahanol, ond dyma ychydig o enghreifftiau o’r pethau y maen nhw’n gorfod eu gwneud bob dydd:
- Siarad efo rhiant / brawd neu chwaer sydd wedi cynhyrfu a’u helpu i gyfathrebu
- Helpu rhiant / brawd neu chwaer i ddod allan o’r gwely a gwisgo amdanynt
- Nôl presgripsiynau a rhoi moddion
- Rheoli cyllideb y teulu
- Coginio, gwaith tŷ a siopa.
Ond yn aml iawn yr her fwyaf ydi poeni am y rhiant / brawd neu chwaer sydd yn eu gofal, a phobl eraill ddim yn deall. Coeliwch neu beidio gall gofalwyr ifanc ffynnu gyda chydnabyddiaeth a chefnogaeth. Er eu bod wedi hen arfer â bod yn gyfrifol a chyflawni pethau, yn anffodus mae gormod ohonynt yn methu â chyflawni eu potensial ac maen nhw’n gallu teimlo’n unig iawn.
Ymyrraeth
Roedd gofalwyr ifanc wedi gofyn am gerdyn adnabod fel bod athrawon, gweithwyr iechyd proffesiynol a siopwyr yn gwybod fod ganddyn nhw gyfrifoldebau pwysig.
Mewn ymateb i’r cais mynegodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, ei hymrwymiad i’r fenter hon i ddosbarthu cerdyn adnabod cenedlaethol i ofalwyr ifanc yn dilyn Ymchwiliad Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 a’i heffaith ar ofalwyr, yn ogystal â mynd i’r afael â’r tair blaenoriaeth genedlaethol ar gyfer gofalwyr yng Nghymru.
Yma yng ngogledd Cymru ffurfiwyd partneriaeth ranbarthol i ddatblygu a lansio’r cerdyn adnabod, gyda’r nod o fedru cynnig mwy i ofalwyr ifanc, rhoi gwell cydnabyddiaeth iddynt a’u galluogi i ddefnyddio’r cerdyn ledled y chwe sir. Daeth yr awdurdodau lleol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, y darparwyr Gweithredu dros Blant, Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd-ddwyrain Cymru a Credu/Gofalwyr Ifanc WCD at ei gilydd i weithio â chriw o ofalwyr ifanc wrth gyflwyno’r cynllun cenedlaethol yn lleol.
Lansiwyd Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc Gogledd Cymru yn swyddogol ar 16 Mawrth 2021, ar Ddiwrnod Gweithredu ar gyfer Gofalwyr Ifanc. Yn bresennol yn y lansiad roedd gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol, darparwyr a gofalwyr ifanc, yn ogystal â Chlwb Pêl-droed Wrecsam a fu’n ddigon caredig i noddi’r digwyddiad a chodi ymwybyddiaeth o’r cerdyn adnabod. Ymrwymodd y clwb hefyd i godi arian ar gyfer gofalwyr ifanc gydol y flwyddyn.
Canlyniad
Datblygwyd Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc Gogledd Cymru er mwyn:
- Adnabod gofalwyr ifanc – plentyn neu unigolyn ifanc deunaw oed neu iau sy’n byw yng Nghymru
- Cydnabod mor bwysig yw eu rôl a’r effaith y gall ei gael ar eu bywydau a’u llesiant
- Codi ymwybyddiaeth o ofalwyr ifanc yn eu cymunedau lleol, ymysg eu cyfoedion ac ymhlith y gweithwyr proffesiynol y gallent ddod mewn cysylltiad â hwy, fel meddygon teulu, Nyrsys Ardal, fferyllfeydd, ysgolion, sefydliadau addysg bellach ac yn y blaen
- Helpu gofalwyr ifanc i gael y gefnogaeth iawn ar yr adeg iawn, gan gynnwys eu cyfeirio at wasanaethau cynnal.
Bydd y cerdyn adnabod yn ffordd syml a rhwydd o roi gwybod i athrawon, fferyllwyr a meddygon teulu, staff mewn siopau a gwasanaethau cymunedol fel canolfannau hamdden a chludiant cyhoeddus eu bod yn gofalu am rywun. Bydd hefyd yn eu helpu i arfer eu hawliau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, gan gynnwys yr hawl i gael asesiad o anghenion fel gofalwyr.
Gall gofalwyr ifanc ddewis cael y cerdyn ar sawl gwahanol ffurf, gan gynnwys un plastig maint cerdyn credyd, strapen i’w rhoi o amgylch eu harddwrn, a fersiwn digidol ar ffurf ap ffôn symudol. Bydd y gofalwyr yn rhydd i ddewis beth bynnag sydd fwyaf hwylus iddynt ar sail eu hoedran ac ati.

Os ydych chi’n adnabod rhywun a fyddai’n elwa ar gael Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc, neu sydd eisiau siarad â rhywun am eu swyddogaeth ofalu, cysylltwch â:
Gweithredu dros Blant (Ynys Môn a Gwynedd) 01248 364614
gwyneddyoungcarers@actionforchildren.org.uk
ynysmonyoungcarers@actionforchildren.org.uk
Credu (Conwy, Sir Ddinbych a Wrecsam) 01597 823800 / info@wcdyc.org.uk
Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd-ddwyrain Cymru (Sir y Fflint) 01352 752525 / nyc@newcis.org.uk