Lead Organisation: Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
Mae’n bosibl y bydd pobl ag anableddau dysgu yn ei chael hi’n anoddach adnabod problemau iechyd a cheisio triniaeth na’r rhai nad oes ganddynt anabledd dysgu. Er mwyn mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb iechyd hwn, mae NICE yn argymell bod pawb ag anabledd dysgu yn cael cynnig archwiliad iechyd blynyddol gan eu meddyg teulu. Mae gwiriadau iechyd yn darparu ffordd o ganfod, trin ac atal cyflyrau iechyd na fyddent yn cael eu hadnabod o bosib fel arall.
Fodd bynnag, mae tystiolaeth yn awgrymu mai dim ond 25% o bobl ag anabledd dysgu sydd wedi’u cofrestru gyda’u meddyg teulu ac nid yw llawer o bobl yn ymwybodol y gallant gael gwiriad iechyd blynyddol. Mewn ymateb i hyn, lansiwyd y Prosiect Sgrinio Iechyd yng Ngogledd Cymru ym mis Mehefin 2021.
Nod y prosiect oedd hyrwyddo gwiriadau a phrofion sgrinio iechyd blynyddol a chyflogwyd 8 o unigolion ag anableddau dysgu fel eiriolwyr sgrinio iechyd i gyflawni hyn.
Mae rhai o’r cyflawniadau niferus yn cynnwys:
- Mae’r Hyrwyddwyr wedi ysgrifennu, creu a chyflwyno gweithdai dan arweiniad cymheiriaid sy’n pwysleisio pwysigrwydd gwiriadau iechyd rheolaidd, darparu arweiniad ymarferol a rhannu profiadau personol
- Gweithdai wedi’u teilwra i roi cymorth, ac wedi’u darparu ar gyfer aelodau o’r teulu i’w haddysgu a’u grymuso ynghylch profion sgrinio iechyd
- Cyd-gynnal hyfforddiant Hyrwyddwyr Anabledd Dysgu mewn ysbytai i rannu eu profiadau a phontio’r bwlch rhwng gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac unigolion ag anabledd dysgu
- Cydweithio ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i greu gwybodaeth hawdd ei deall am brofion sgrinio
- Ymgysylltu’n weithredol â darparwyr gofal iechyd, gan hyrwyddo profiadau sgrinio iechyd personol a chadarnhaol
- Meithrin annibyniaeth a hunangynhaliaeth ar gyfer yr 8 hyrwyddwr a gyflogir gan y prosiect