• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Y bobl rydyn ni’n eu cefnogi >
      • Pobl gydag anableddau dysgu
      • Gofalwyr di-dâl
      • Pobl sy’n byw gyda dementia
      • Plant a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth
      • Pobl gydag anghenion emosiynol ac iechyd meddwl
    • Sut rydyn ni’n gweithio >
      • Comisiynu
      • Gweithlu
      • Diogelu
      • Fforwm gwerth cymdeithasol
      • Digidol, data a thechnoleg
      • Mwy na geiriau
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu

Strategaeth Cyflogaeth â Chymorth ar gyfer Pobl ag Anableddau Dysgu yng Ngogledd Cymru

25/09/2024

LnRiLWZpZWxke21hcmdpbi1ib3R0b206MC43NmVtfS50Yi1maWVsZC0tbGVmdHt0ZXh0LWFsaWduOmxlZnR9LnRiLWZpZWxkLS1jZW50ZXJ7dGV4dC1hbGlnbjpjZW50ZXJ9LnRiLWZpZWxkLS1yaWdodHt0ZXh0LWFsaWduOnJpZ2h0fS50Yi1maWVsZF9fc2t5cGVfcHJldmlld3twYWRkaW5nOjEwcHggMjBweDtib3JkZXItcmFkaXVzOjNweDtjb2xvcjojZmZmO2JhY2tncm91bmQ6IzAwYWZlZTtkaXNwbGF5OmlubGluZS1ibG9ja311bC5nbGlkZV9fc2xpZGVze21hcmdpbjowfQ==
ICAgIC50Yi1jb250YWluZXIgLnRiLWNvbnRhaW5lci1pbm5lcnt3aWR0aDoxMDAlO21hcmdpbjowIGF1dG99IC53cC1ibG9jay10b29sc2V0LWJsb2Nrcy1jb250YWluZXIudGItY29udGFpbmVyW2RhdGEtdG9vbHNldC1ibG9ja3MtY29udGFpbmVyPSIzNGJlNjYwZGE5ZjNlMzcxMWY2NGQzYjUwZTQwYTVhNyJdIHsgYmFja2dyb3VuZDpsaW5lYXItZ3JhZGllbnQocmdiYSggMjM5LCAyMzUsIDIzNSwgMCApLHJnYmEoIDIzOSwgMjM1LCAyMzUsIDAgKSksICAgdXJsKCdodHRwczovL3d3dy5ub3J0aHdhbGVzY29sbGFib3JhdGl2ZS53YWxlcy93cC1jb250ZW50L3VwbG9hZHMvMjAyMS8wNi9zZmxfcW9ubXkwMC5qcGcnKSBjZW50ZXIgY2VudGVyIG5vLXJlcGVhdDtiYWNrZ3JvdW5kLXNpemU6YXV0bywgY292ZXI7cGFkZGluZzogMjVweCAwcHggMHB4IDBweDsgfSAudGItY29udGFpbmVyIC50Yi1jb250YWluZXItaW5uZXJ7d2lkdGg6MTAwJTttYXJnaW46MCBhdXRvfSAud3AtYmxvY2stdG9vbHNldC1ibG9ja3MtY29udGFpbmVyLnRiLWNvbnRhaW5lcltkYXRhLXRvb2xzZXQtYmxvY2tzLWNvbnRhaW5lcj0iZjA4YjBhNDRiMThkNTgxYTFlN2FiNWY2ZGM2Y2Q5YjMiXSB7IHBhZGRpbmc6IDBweDtkaXNwbGF5Om1zLWZsZXhib3ggIWltcG9ydGFudDtkaXNwbGF5OmZsZXggIWltcG9ydGFudDstbXMtZmxleC1kaXJlY3Rpb246Y29sdW1uO2ZsZXgtZGlyZWN0aW9uOmNvbHVtbjstbXMtZmxleC1wYWNrOmVuZDtqdXN0aWZ5LWNvbnRlbnQ6ZmxleC1lbmQ7IH0gLnRiLWZpZWxkcy1hbmQtdGV4dFtkYXRhLXRvb2xzZXQtYmxvY2tzLWZpZWxkcy1hbmQtdGV4dD0iZThjYTYwODgwMjgzZjcwNjZhZDk2YzkwOWIwYTAyYTgiXSB7IGJhY2tncm91bmQtY29sb3I6IHJnYmEoIDI1NSwgMjU1LCAyNTUsIDAuNzEgKTtwYWRkaW5nLXRvcDogMjBweDtwYWRkaW5nLXJpZ2h0OiAzMHB4O3BhZGRpbmctbGVmdDogMzBweDsgfSAudGItY29udGFpbmVyIC50Yi1jb250YWluZXItaW5uZXJ7d2lkdGg6MTAwJTttYXJnaW46MCBhdXRvfSAud3AtYmxvY2stdG9vbHNldC1ibG9ja3MtY29udGFpbmVyLnRiLWNvbnRhaW5lcltkYXRhLXRvb2xzZXQtYmxvY2tzLWNvbnRhaW5lcj0iYmE3MGMxNzlkNTA0MTA2NjQzOGZjOGZkZjk4ODE2ZWIiXSB7IHBhZGRpbmc6IDI1cHg7IH0gLndwLWJsb2NrLXRvb2xzZXQtYmxvY2tzLWNvbnRhaW5lci50Yi1jb250YWluZXJbZGF0YS10b29sc2V0LWJsb2Nrcy1jb250YWluZXI9ImJhNzBjMTc5ZDUwNDEwNjY0MzhmYzhmZGY5ODgxNmViIl0gPiAudGItY29udGFpbmVyLWlubmVyIHsgbWF4LXdpZHRoOiA4MCU7IH0gLnRiLWZpZWxkW2RhdGEtdG9vbHNldC1ibG9ja3MtZmllbGQ9ImQ4Mjg0N2ZlNWViNTJmNTliYTc3M2FiYTU5MzliNTMwIl0geyBmb250LXNpemU6IDIwcHg7dGV4dC1hbGlnbjogY2VudGVyO2JhY2tncm91bmQtY29sb3I6IHJnYmEoIDI1NSwgMjU1LCAyNTUsIDEgKTtwYWRkaW5nOiAxMHB4O2JvcmRlcjogNHB4IHNvbGlkIHJnYmEoIDAsIDAsIDAsIDEgKTsgfSAgQG1lZGlhIG9ubHkgc2NyZWVuIGFuZCAobWF4LXdpZHRoOiA3ODFweCkgeyAgICAgLnRiLWNvbnRhaW5lciAudGItY29udGFpbmVyLWlubmVye3dpZHRoOjEwMCU7bWFyZ2luOjAgYXV0b30udGItY29udGFpbmVyIC50Yi1jb250YWluZXItaW5uZXJ7d2lkdGg6MTAwJTttYXJnaW46MCBhdXRvfS50Yi1jb250YWluZXIgLnRiLWNvbnRhaW5lci1pbm5lcnt3aWR0aDoxMDAlO21hcmdpbjowIGF1dG99ICB9IEBtZWRpYSBvbmx5IHNjcmVlbiBhbmQgKG1heC13aWR0aDogNTk5cHgpIHsgICAgIC50Yi1jb250YWluZXIgLnRiLWNvbnRhaW5lci1pbm5lcnt3aWR0aDoxMDAlO21hcmdpbjowIGF1dG99LnRiLWNvbnRhaW5lciAudGItY29udGFpbmVyLWlubmVye3dpZHRoOjEwMCU7bWFyZ2luOjAgYXV0b30udGItY29udGFpbmVyIC50Yi1jb250YWluZXItaW5uZXJ7d2lkdGg6MTAwJTttYXJnaW46MCBhdXRvfSAud3AtYmxvY2stdG9vbHNldC1ibG9ja3MtY29udGFpbmVyLnRiLWNvbnRhaW5lcltkYXRhLXRvb2xzZXQtYmxvY2tzLWNvbnRhaW5lcj0iYmE3MGMxNzlkNTA0MTA2NjQzOGZjOGZkZjk4ODE2ZWIiXSA+IC50Yi1jb250YWluZXItaW5uZXIgeyBtYXgtd2lkdGg6IDYwJTsgfSAgIH0g
“Mi fedra’ i wneud mwy nag y mae pobl yn ei dybio. Rydw i eisiau gweithio, ond weithiau mae’r bobl o fy nghwmpas i’n meddwl nad ydw i’n gallu gweithio…

Lead Organisation: Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd


“Mi fedra’ i wneud mwy nag y mae pobl yn ei dybio. Rydw i eisiau gweithio, ond weithiau mae’r bobl o fy nghwmpas i’n meddwl nad ydw i’n gallu gweithio, neu mai dim ond mewn siopau elusen rydw i’n gallu gweithio.” (Strategaeth Anableddau Dysgu Gogledd Cymru, dyfyniad gan ddinesydd)

Mae pobl ag anableddau dysgu yng Ngogledd Cymru wedi dweud wrthym ni eu bod eisiau cael yr un cyfleoedd â gweddill y boblogaeth i gael swydd, synnwyr o hunan werth ac i wneud cyfraniad gwerth chweil i gymdeithas.Er gwaetha’r dyhead hwn, dim ond 4.8% o bobl ag anableddau dysgu y mae’r gwasanaethau gofal cymdeithasol yn gwybod amdanynt sydd mewn gwaith cyflogedig. 

Er mwyn ymateb i hyn fe helpodd arweinydd ffrwd waith cyflogaeth Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd y Grŵp Partneriaeth Anableddau Dysgu i gyd-gynhyrchu Strategaeth Cyflogaeth â Chymorth Gogledd Cymru ar gyfer pobl ag anableddau dysgu (2024 i 2029).

Wrth wraidd y strategaeth hon mae llais pobl sydd ag anableddau dysgu a’r newid mawr sydd ei angen yn eu barn nhw i alluogi mwy o bobl i gael mynediad cyfartal at waith cyflogedig. Nod y strategaeth yw rhoi grym i unigolion sydd ag anableddau dysgu drwy hwyluso eu mynediad at waith cyflogedig tra’n parchu eu dewisiadau.Mae’n tanlinellu’r potensial am dwf personol a gwell iechyd a lles pan mae unigolion sydd ag anableddau dysgu mewn gwaith ac yn ennill cyflog, a allai yn ei dro leihau eu hangen am wasanaethau a gaiff eu hariannu gan yr awdurdod lleol.

Y brif ffordd y bydd y strategaeth yn cael ei rhoi ar waith ar draws Gogledd Cymru yw drwy integreiddio Model Cyflogaeth â Chymorth Gogledd Cymru o fewn gwasanaethau gwaith cymdeithasol anableddau dysgu mewn partneriaeth â gwasanaethau cyflogaeth â chymorth arbenigol yn dilyn safonau cywirdeb enghreifftiol Fframwaith Ansawdd Cyflogaeth â Chymorth BASE UK.

Gyda grant ychwanegol o Gronfa Integreiddio Rhanbarthol Gogledd Cymru mae hyn nawr wedi ei sefydlu ym mhob awdurdod lleol ac fe aeth y model yn fyw ar 1 Gorffennaf 2024.

  • Mae’r model yn un is-ranbarthol gyda dau awdurdod lleol yn cydweithio – mae gan bob is-ranbarth swydd newydd ar gyfer Cydlynydd Llwybrau Cyflogaeth a’i swydd yw cefnogi’r timau gwaith cymdeithasol i gael trafodaeth sy’n canolbwyntio ar waith gyda phobl sydd ag anableddau dysgu.
  • Maent yn gweithredu fel un pwynt atgyfeirio ar gyfer y timau gwaith cymdeithasol i unrhyw un sydd eisiau mwy o wybodaeth a chyngor ynglŷn â chael gwaith cyflogedig.
  • Pan fo pobl eisiau gweithio mae’r Cydlynydd Llwybrau Cyflogaeth yn eu cefnogi i gael mynediad i’r gwasanaeth cyflogaeth â chymorth lleol sy’n dilyn safonau cywirdeb enghreifftiol Fframwaith Ansawdd Cyflogaeth â Chymorth BASE UK – gweler y model 5 cam. Mae’r gwasanaethau hyn wedi eu comisiynu i ddarparu cefnogaeth bwrpasol i unigolion sydd wedi eu hatgyfeirio gan y Cydlynydd Llwybrau Cyflogaeth.

Peilot o’r model yn Sir Ddinbych a Chonwy 2023-2024: uchafbwyntiau dysgu

Wrth i ni lunio’r Strategaeth hon, cawsom gyfle i brofi Model Cyflogaeth â Chymorth Gogledd Cymru i sicrhau ei fod yn gweithio, ac mae’n gweithio. Mae mwy o bobl ag anableddau dysgu eisoes yn gweithio am gyflog oherwydd y Strategaeth hon. Ramona Murray, Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Anabledd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cadeirydd Grŵp Llywio’r Strategaeth Cyflogaeth â Chymorth

  • Y sefyllfa ar ddiwedd Mawrth 2024 oedd bod 61 o atgyfeiriadau wedi eu gwneud i’r Cydlynydd Llwybrau Cyflogaeth gyda’r mwyafrif yn dod gan y timau gwaith cymdeithasol. Mae yna arwydd cryf fod y prosiect yn ymwneud ag angen nad oedd yn cael ei ddiwallu.
  • Nid yw’r rhan fwyaf o bobl erioed wedi gweithio o’r blaen nac erioed wedi cael y cyfle i chwilio am waith cyflogedig. Roedd y rhan fwyaf o atgyfeiriadau ar gyfer dynion 18 oed a hŷn.
  • Mae cefnogaeth gan rieni a gofalwyr yn hanfodol i lwyddiant – gall teuluoedd weithiau osod rhwystrau yn y ffordd o ganlyniad i bryderon am yr effaith ar fudd-daliadau’r aelwyd a phryderon ynglŷn â sut fydd pobl yn cael eu trin yn y gweithle. Mae’r Cydlynydd Llwybrau Cyflogaeth wedi gorfod datblygu strategaeth i roi tawelwch meddwl i rieni tra’n sicrhau fod gan unigolion yr hawl i ddewis drostynt eu hunain.
  • Mae safbwyntiau gweithwyr cymdeithasol wedi bod yn gadarnhaol iawn gan ddangos gwerth ychwanegol rôl y Cydlynydd Llwybrau Cyflogaeth. “Dwi’n credu fod hwn yn wasanaeth sydd ei angen yn fawr ar gyfer pobl gydag Anableddau Dysgu. Mae’n rhoi cyfle i bobl i gael swyddi lle byddent fel arall yn ei chael yn anodd i un ai ymgeisio am swydd neu wneud cysylltiadau gyda chyflogwyr. Mae’n llwybr newydd gwych i weithwyr cymdeithasol gyfeirio ato ac yn ddewis newydd gwych i’r bobl rydym ni’n gweithio gyda nhw.” (Gweithiwr Cymdeithasol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy)
  • Roedd gan y gwasanaeth cyflogaeth â chymorth a ddarperir gan Co-options Ltd lwyth achosion gweithredol o 26 o bobl ac erbyn dechrau Gorffennaf 2024 roedd 7 o bobl wedi dod o hyd i waith cyflogedig oedd yn cyfateb yn dda.
  • Roedd angen profiad gwaith yn gyntaf ar nifer o bobl i ddysgu pa swydd oedd yn gweddu orau iddynt ac i gael profiad a dealltwriaeth o fod mewn amgylchedd gwaith go iawn.
  • Mae ymgysylltu â chyflogwyr wedi bod yn heriol, hyd yn oed y rhai hynny sydd wedi cofrestru ar gyfer y Cynllun Cyflogwyr sy’n Hyderus o ran Anabledd – ond er gwaethaf hyn mae Co-options wedi bod yn llwyddiannus yn datblygu rhwydwaith o gyflogwyr cefnogol sy’n hanfodol ar gyfer sicrhau’r swydd iawn i bob unigolyn.

Rhai dyfyniadau eraill o’r strategaeth:

“Os fedra i ddysgu sut i farchogaeth ceffyl, mi fedra i ddysgu sut i wneud swydd.”

“Fe ddylai gweithwyr cymdeithasol siarad efo pobl am weithio am gyflog.”

“Mae’r ffordd hen ffasiwn o feddwl yn cyfyngu pobl.”

“Gwrandewch arnom ni, gadewch i ni siarad dros ein hunain.”

“Dwi eisiau dewisiadau fel pawb arall – mi ges i gynnig un peth!”

Darlun 3: Model Cyflogaeth â Chymorth Gogledd Cymru


Contact

Kim Killow
kim.killow@flintshire.gov.uk

Categorised under:

Learning disability

More Good Ideas

Tagged With: anabledd deallusol, anabledd dysgu, anableddau deallusol, anableddau dysgu, datblygiad deallusol

Primary Sidebar

Negeseuon Diweddar

Cynrychiolydd Gofalwyr BPRh

Arddangosfa ddigidol: yr hyn a ddysgwyd gennym

Arganddosfa Gofal Cymdeithasol Digidol Gogledd Cymru 2025

  • Cynllun Cymunedau sy’n Deall Dementia Gogledd Cymru
  • Llwybr Cymorth Cof Gogledd Cymru – pa gymorth sydd ar gael?
  • Gwobrau Cyfranogiad Cymdeithas Alzheimer – Llwybr Cymorth Cof Gogledd Cymru 2024

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni

Bluesky: @hcargc.bsky.social


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

Copyright © 2025 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital