Cynllun cenedlaethol yw Protocol Herbert sy’n cael ei gyflwyno’n lleol gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru er mwyn annog gofalwyr ac aelodau teulu i lenwi ffurflen sy’n rhoi gwybodaeth bwysig am unigolyn bregus i’w defnyddio pe baent yn mynd ar goll. Gall hyn gynnwys manylion am lefydd y maent yn hoff o fynd iddynt, unrhyw feddyginiaeth y mae’n rhaid iddynt ei chymryd, eu trefn ddyddiol arferol, disgrifiad a llun diweddar ohonynt.Pe bai aelod o deulu neu gyfaill yn mynd ar goll, gellir anfon y wybodaeth yn syth at swyddogion heddlu rheng flaen a SCCH gan olygu nad oes angen treulio amser yn casglu’r manylion yn gyntaf a bod gwybodaeth hollbwysig ar gael ar unwaith i’r rhai hynny sy’n cymryd rhan yn y chwiliad er mwyn gallu dod o hyd i’r unigolyn bregus a’u dychwelyd adref yn ddiogel cyn gynted â phosibl.
Mae’r protocol wedi’i enwi ar ôl George Herbert, cyn-filwr a oedd yn rhan o laniadau D-Day yn Normandi. Roedd yn dioddef o ddementia ac aeth ar goll sawl blwyddyn yn ôl.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth a’r ffurflen yn www.north-wales.police.uk/herbertprotocol