• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
    • Cymryd rhan
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
    • Anableddau dysgu
    • Iechyd meddwl
    • Plant a phobl ifanc
    • Gofalwyr
    • Dementia
    • Comisiynu
    • Gweithlu
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Asesiad Poblogaeth / Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru

Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru

02/08/2021

Ydych chi’n defnyddio neu ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth yng Ngogledd Cymru? Fe hoffem ni gael gwybod eich barn chi am y gofal a’r cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd, a sut y gellid ei wella.

Mae’r arolwg hwn bellach wedi cau.  Os hoffech mwy o wybodaeth am ddiweddariad yr Asesiad Anghenion Poblogaeth, ebostiwch cydweithredfagogleddcymru@sirddinbych.gov.uk 


Fersiynau amgen o’r arolwg

Fersiwn pobl ifanc

Fersiwn mewn print: Arolwg pobl ifanc

Fersiwn hawdd ei darllen

Cwestiynau Hawdd i’w Darllen

Fersiwn mewn print

Fersiwn mewn print: Arolwg Asesiad o Anghenion Poblogaeth

Fersiwn Iaith Arwyddion Prydain

Manylion yr arolwg

Mae gofal a chymorth yn cynnwys cymorth gyda thasgau byw dydd i ddydd oherwydd salwch neu anabledd corfforol neu feddyliol i bobl o bob oed. Mae’n cynnwys plant a phobl ifanc â phrofiad o ofal maeth neu fabwysiadu yn ogystal â gofalwyr di-dâl sy’n darparu cymorth i deulu neu ffrindiau.

Bu i ni gyhoeddi adroddiad llawn ddiwethaf ar y gwasanaethau sydd eu hangen yn 2017, ac ers hynny rydym wedi cyhoeddi diweddariadau am ofalwyr, anableddau dysgu, dementia ac effaith Covid-19 ar bob grŵp. Mae’r adroddiadau hyn ar gael ar ein gwefan: Asesiadau o Anghenion y Boblogaeth.

Byddwn hefyd yn defnyddio gwybodaeth o weithgareddau ymgysylltu eraill, felly os ydych chi eisoes wedi rhoi adborth tebyg am wasanaethau yng ngogledd Cymru i gyngor lleol neu bwrdd iechyd, does dim angen i chi lenwi’r holiadur hwn hefyd. Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw adborth neu adroddiadau yr ydych yn meddwl y buasai’n ddefnyddiol ar gyfer y prosiect, anfonwch ebost atom i northwalescollaborative@denbighshire.gov.uk. Mae mwy o wybodaeth am y prosiectau rydym ni’n gweithio arnyn nhw i’w gweld ar ein gwefan: gweithgareddau ymgysylltu.  

Mae’r arolwg yn cael ei gynnal gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru, a sefydlwyd fel rhan o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant i wella sut mae gwasanaethau iechyd a gofal yn cael eu darparu ac i wella lles y boblogaeth.

Bydd yr wybodaeth y byddwch yn ei darparu’n cael ei defnyddio i wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a bydd crynodeb o’r canfyddiadau’n cael ei gyhoeddi ar wefan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Ein bwriad yw cyhoeddi rhestr o sefydliadau a fu’n rhan o’r ymgynghoriad, ond fyddwn ni ddim yn cynnwys enwau pobl nag unrhyw wybodaeth arall allai ddatgelu pwy yw unigolion penodol.

Darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd Cyffredinol.

Llenwch yr arolwg ar-lein yma

Ffeiliwyd dan: Asesiad Poblogaeth, Blog

Gofalwn Cymru WeCare Wales

Primary Sidebar

Negeseuon Diweddar

Canolbwynt ar anabledd a salwch

YN EISIAU: Cynrychiolwyr Gofalwyr

Gofalwyr ifanc sy’n gofalu am oedolion â phroblemau iechyd meddwl

  • Plant nad ydyn nhw’n mynd i’r ysgol
  • Cynhwysiant Digidol
  • YN EISIAU: CYNRYCHIOLYDD TRYDYDD SECTOR CENEDLAETHOL

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

@CoproNetWales Member logo

Copyright © 2023 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital