• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Y bobl rydyn ni’n eu cefnogi >
      • Pobl gydag anableddau dysgu
      • Gofalwyr di-dâl
      • Pobl sy’n byw gyda dementia
      • Plant a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth
      • Pobl gydag anghenion emosiynol ac iechyd meddwl
    • Sut rydyn ni’n gweithio >
      • Comisiynu
      • Gweithlu
      • Diogelu
      • Fforwm gwerth cymdeithasol
      • Digidol, data a thechnoleg
      • Mwy na geiriau
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Blog / Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn dod â £45m i’r rhanbarth i gefnogi’r bobl sydd fwyaf agored i niwed

Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn dod â £45m i’r rhanbarth i gefnogi’r bobl sydd fwyaf agored i niwed

28/05/2026

Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru (BPRhGC) wedi helpu i sicrhau buddsoddiad cyfalaf gwerth mwy na £45 miliwn i wella gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a thai ar draws y rhanbarth, gan gefnogi rhai o’r bobl sydd fwyaf agored i niwed yng Ngogledd Cymru.

Gan weithio gyda phartneriaid ledled Gogledd Cymru, mae’r rhaglen hon wedi cyflawni prosiectau sy’n helpu pobl i fyw bywyd iachach a mwy annibynnol, a chryfhau’r ddarpariaeth o wasanaethau ar gyfer grwpiau agored i niwed fel pobl hŷn, plant ag anghenion cymhleth, pobl ag anableddau dysgu a’r rhai sy’n byw gyda dementia. Rhan allweddol o’r gwaith hwn yw datblygu canolfannau cymunedol lle mae gwasanaethau iechyd, gofal a chymorth yn cael eu darparu mewn un lle, gan ei gwneud hi’n haws i bobl gael mynediad at gymorth a lleihau’r pwysau ar ysbytai a gwasanaethau eraill.

Mae Canolfan Glanhwfa yn Llangefni, Ynys Môn wedi’i thrawsnewid yn ganolfan gymunedol fywiog sy’n cynnig cefnogaeth i bobl hŷn, gwasanaethau dementia, a gweithgareddau i deuluoedd a phobl ifanc. Mae’r datblygiad yn dod â nifer o wasanaethau o dan yr un to ac yn cynnig lle croesawgar yng nghanol y gymuned, gan ddangos yr effaith y mae’r cyllid hwn wedi’i chael.

Mae prosiectau mawr eraill yng Ngogledd Cymru yn cynnwys:

  • Canolfan Asesu Plant Bwthyn y Ddôl, sy’n cynnig cefnogaeth arbenigol i blant ag anghenion cymhleth
  • Tŷ Croes Atti, cyfleuster gofal preswyl 56 gwely a ddarperir gan awdurdodau lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac sy’n cynnig llety o ansawdd uchel a chymorth arbenigol ar gyfer dementia
  • Coed y Ddraig yn Sir y Fflint, canolfan gymunedol bwrpasol sy’n cefnogi oedolion ag anableddau dysgu, awtistiaeth ac anghenion iechyd meddwl

Mae cyllid hefyd wedi cynorthwyo canolfannau teulu, cartrefi plant, gwasanaethau seibiant a chynlluniau byw â chymorth ledled Gogledd Cymru.

Mae’r prosiectau’n cael eu hariannu drwy gyfuniad o raglenni cyfalaf Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso (IRCF) a’r Gronfa Iechyd a Gofal (HCF), ochr yn ochr â buddsoddiad gan awdurdodau lleol a phartneriaethau.

Dywedodd Dilwyn Morgan, Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gogledd Cymru:

“Mae cyllid buddsoddi cyfalaf Llywodraeth Cymru drwy raglenni cyfalaf IRCF a HCF wedi ein galluogi i weithio gyda phartneriaid ledled y rhanbarth i ddatblygu cyfleusterau sy’n wir adlewyrchu angen lleol. O ganolfannau cymunedol integredig i ddarpariaeth arbenigol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu a dementia, mae’r buddsoddiad cyfalaf hwn yn cryfhau gwasanaethau ac yn helpu rhai o’n trigolion mwyaf agored i niwed i fyw bywydau iachach a mwy annibynnol.”

Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn dwyn ynghyd y chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), a phartneriaid yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol i wella lles a sicrhau bod gwasanaethau’n bodloni anghenion lleol. Drwy ei raglen gyfalaf, mae’r Bwrdd wedi gweithio gyda phartneriaid ledled y rhanbarth i ddarparu cyfleusterau modern, sy’n canolbwyntio ar y gymuned ac sy’n helpu pobl i fyw bywydau iachach a mwy annibynnol.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gogledd Cymru: https://www.cydweithredfagogleddcymru.cymru/cyfalaf/

Ffeiliwyd dan: Blog

Gofalwn Cymru WeCare Wales

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni

Bluesky: @hcargc.bsky.social


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

Copyright © 2026 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital

Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi ar ein gwefan.
Gallwch ddysgu mwy am ba gwcis rydym yn eu defnyddio neu eu diffodd yn y .

North Wales Collaborative
Wedi'i bweru gan  GDPR Cookie Compliance
Trosolwg preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn i ni allu rhoi'r profiad defnyddiwr gorau posibl i chi. Mae gwybodaeth cwcis yn cael ei storio yn eich porwr ac yn cyflawni swyddogaethau fel eich adnabod pan fyddwch chi'n dychwelyd i'n gwefan a helpu ein tîm i ddeall pa adrannau o'r wefan rydych chi'n eu cael fwyaf diddorol a defnyddiol.

Strictly Necessary Cookies

Dylai Cwcis Cwbl Angenrheidiol fod wedi'u galluogi bob amser fel y gallwn gadw eich dewisiadau ar gyfer gosodiadau cwcis.

Cwcis Trydydd Parti

Mae'r wefan hon yn defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth ddienw fel nifer yr ymwelwyr â'r safle, a'r tudalennau mwyaf poblogaidd.

Mae cadw'r cwci hwn wedi'i alluogi yn ein helpu i wella ein gwefan.