Ymunwch â ni am gyfres o chwe sesiwn bore diddorol i ddarganfod a datblygu model rhanbarthol ar gyfer ymchwil ac arloesi iechyd a gofal cymdeithasol.
Labordy Byw yw lle ble gall pobl ddod ynghyd i ddarganfod, datblygu a defnyddio syniadau arloesol. Bydd y gweithdai hyn yn rhoi cyfle i chi ddysgu’r technegau a datblygu dealltwriaeth gyffredin o beth mae ymchwil, arloesi a gwelliant yn ei olygu mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
Bydd cyfranogwyr sy’n ymrwymo i’r chwe sesiwn hyn yn:
- datblygu perthnasau mwy ystyrlon gyda phartneriaid ar draws sectorau
- cael eglurder am llwybrau ymchwil ac arloesol mewn systemau gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
- profi sut beth yw bod yn rhan o Labordai Byw fel cydlynydd
- cyfrannu at ddylunio model Labordai Byw gwreiddiol, cydlynedig i Ogledd Cymru
Rydym yn gwahodd cymysgedd eang o bobl a rolau. Mae’n bwysig fod y grŵp yn cynnwys pobl sydd mewn sefyllfa i ddatblygu’r gwersi a’r camau gweithredu yn eu sefydliadau eu hunain. Rydym yn disgwyl cyfranogwyr o ar draws iechyd a gofal cymdeithasol ac o wahanol leoliadau – felly gall hyn fod yn uwch academyddion, arweinwyr rhwydwaith, cyfarwyddwyr neu uwch reolwyr mewn iechyd/gofal cymdeithasol, ymarferwyr gofal iechyd, ymarferwyr gofal cymdeithasol a mwy.
Cwestiynau Cyffredin Labordai Byw
I fynegi diddordeb e-bostiwch ffion.davies@sirddinbych.gov.uk gyda theitl eich swydd â’ch sefydliad erbyn dydd Iau 29 Hydref.