Bydd angen miloedd fwy o bobl i weithio mewn rolau gofalu gydag oedolion a phlant yng Nghymru er mwyn bodloni’r galw cynyddol am wasanaethau gofal a darparu cymorth i gymunedau ledled y wlad.
Gofalwn yw ymgyrch genedlaethol i helpu i ddenu mwy o bobl i weithio mewn gofal.
Mae’n rhan o strategaeth hirdymor i ddatblygu’r gweithluoedd yn y sectorau gofal ac iechyd dros y ddegawd nesaf er mwyn cynnig gwasanaeth di-dor o ansawdd uchel i bobl Cymru.
Mae yna amrywiaeth o gyfleoedd gyrfaol mewn gofal, o warchodwyr plant ac ymarferwyr meithrin i gydlynwyr gofal cartref a rheolwyr cartrefi gofal ynghyd â chyfleoedd i ennill cymwysterau wrth weithio a datblygu gyrfaoedd
I gael rhagor o wybodaeth am y rolau sydd ar gael a chyflogwyr lleol yn y sectorau gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant, ewch i Gofalwn.cymru.