• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
    • Cymryd rhan
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
      • Anableddau dysgu
      • Iechyd meddwl
      • Plant a phobl ifanc
    • Gofalwyr
    • Dementia
    • Comisiynu
    • Gweithlu
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol / Llwybrau ymchwil, arloesi a gwelliant Gogledd Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol

Llwybrau ymchwil, arloesi a gwelliant Gogledd Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol

Os oes gennych syniad da, her sydd angen ei datrys neu ffyrdd newydd o weithio yr hoffech eu rhannu, mae llawer o gymorth ar gael i’ch helpu i wneud hynny. Gall darganfod eich ffordd at y gwahanol fathau o gymorth sydd ar gael fod yn fwy o her. Rydym wedi awgrymu llwybrau y gallech eu dilyn isod er mwyn eich helpu i archwilio eich syniadau a dod o hyd i ffynonellau cymorth.

Syniad ar gyfer arloesi neu welliant

Er mwyn archwilio’r syniad, gallech:

  • Gysylltu gyda’n llyfrgellydd arbenigol er mwyn darganfod os oes unrhyw beth tebyg wedi ei wneud o’r blaen – rebecca.roylance@sirddinbych.gov.uk
  • Cysylltu gyda phobl sydd wedi gwneud rhywbeth tebyg er mwyn darganfod mwy. Gall yr hwb ymchwil eich helpu i gysylltu gyda phobl neu hyd yn oed i gynnal digwyddiad er mwyn dwyn pobl sydd â diddordeb archwilio syniad ynghyd.
  • Ymweld â’r Rhwydwaith Cyd-Gynhyrchu am syniadau ynglŷn â sut i gydgynhyrchu gwasanaethau a datblygu arloesedd rhwng pobl sy’n defnyddio ac yn darparu gwasanaeth.
  • Edrychwch ar yr adnodd ‘Cyflawni Arloesedd’ Hwb Gwyddorau Bywyd, sy’n cynnwys syniadau allweddol, ymchwil newydd a chyfeirlyfr o sefydliadau sy’n cefnogi arloesi mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Awgrymwch bwnc y gall Technoleg Iechyd Cymru ei arfarnu.   Maent yn arfarnu amrywiaeth eang o dechnolegau a modelau gofal a chymorth.  Ar gyfer iechyd, gallai hyn gynnwys dyfeisiau meddygol, diagnosteg, triniaethau, a therapïau seicolegol.  Ar gyfer gofal cymdeithasol, gallai hyn gynnwys offer a dylunio amgylcheddol, neu fodelau gwahanol ar gyfer cefnogi teuluoedd, plant, oedolion a’r gweithlu.
  • Defnyddio modelau, prosesau a thechnegau gwella. Mae mwy o wybodaeth ar gael gan Academi Gwelliant Cymru
  • Ymgeisiwch am batrwm enghreifftiol Bevan. Prosiectau iechyd a gofal arloesol yw’r rhain sydd yn derbyn hyfforddiant, rhwydweithio a sgiliau er mwyn gwneud newid trawsnewidiol. Am fwy o wybodaeth ewch i’r wefan
  • Rhowch dro arno a chynhaliwch brosiect ymchwil / gwerthuso er mwyn gweld os yw’n gweithio. Gallai hwn fod yn brosiect y byddwch yn ei gyflawni eich hun. Ewch i’r Canllaw adnoddau defnyddio tystiolaeth  Mae cymorth i ymarferwyr ddatblygu sgiliau ymchwil ar gael o ExChange Wales a’r Gymuned o Ysgolheigion  Mae’n bosib y bydd cyllid ar gael hefyd.

Her neu broblem i’w datrys

Er mwyn archwilio’r syniad, gallech:

  • Cysylltu â’n llyfrgellydd arbenigol er mwyn darganfod beth sydd ar gael ar hyn o bryd neu dystiolaeth i gynorthwyo gyda chais cyllido neu achos busnes – Rebecca.Roylance@sirddinbych.gov.uk
  • Defnyddio technegau arloesol fel Labordai Byw neu feddwl dylunio, a darganfod a oes gan ddiwydiant ddatrysiad, neu os gallant helpu i ddatblygu datrysiad. Rydym wedi crynhoi peth o’r cymorth amrywiol sydd ar gael mewn blog.
  • Ymunwch â chymuned ymarfer
  • Amlygwch y peth fel blaenoriaeth ar gyfer ymchwil. Cysylltwch â ni am fanylion.

Ffyrdd newydd o weithio i’w mabwysiadu a’u lledaenu

Er mwyn rhannu’r syniad, gallech:

  • Gadewch i ni yn yr Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol wybod amdano. Gallwn eich helpu i ysgrifennu amdano mewn blog ar gyfer ein cronfa ddata o syniadau da neu ei ddatblygu mewn podlediad neu fideo. Darllenwch fwy am sut rydym yn casglu ac yn lledaenu syniadau arloesol.
  • Rhannwch gyda chasgliadau eraill o arferion da fel yr ‘Academy of Fab Stuff’ .

Os hoffech bori drwy syniadau ar gyfer ysbrydoliaeth, rydym wedi casglu llefydd da i ddechrau yn ein rhestr o adnoddau er mwyn darganfod tystiolaeth ac arferion da ac yn ein casgliad o syniadau da.


Cysylltwch â ni

Os hoffech gymorth gyda’r llwybrau hyn, cysylltwch â NWRICH@denbighshire.gov.uk er mwyn gweld sut gall yr Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol Gogledd Cymru a Gwelliant eich helpu.

Os gwyddoch am adnoddau eraill y gallwn eu hychwanegu, gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda.

Primary Sidebar

Chwilio

Negeseuon Diweddar

YN EISIAU: CYNRYCHIOLYDD TRYDYDD SECTOR CENEDLAETHOL

Cynhwysiant Digidol

Trigolion DINBYCH – rydym eich angen chi!

  • Ffocws ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches
  • Rhagflas i Ofal
  • Gofalwyr – Rydym eisiau clywed gennych!

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

@CoproNetWales Member logo

Copyright © 2023 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital