Yn yr Hwb Ymchwil, Arloesi a Gwella rydym yn archwilio rhai gwahanol ffyrdd o ddod â phobl ynghyd i rannu heriau, archwilio a phrofi atebion arloesol. Disgrifir y rhain yn aml fel ‘labordai’ felly roeddem o’r farn y byddai’n ddefnyddiol blogio ychydig am y gwahanol ddulliau rydyn ni’n arbrofi gyda nhw, y tebygrwydd a’r gwahaniaethau.
Labordai Byw
Dyma syniad rydyn ni’n ei archwilio gyda’r Asiantaeth Arloesi. Mae’n ofod lle gall pobl ddod at ei gilydd i ddarganfod, datblygu a defnyddio syniadau arloesol. Rydym yn cynllunio rhai gweithdai i roi cyfle i bobl ddysgu’r technegau a hefyd datblygu dealltwriaeth gyffredin o’r hyn y mae ymchwil, arloesi a gwella yn ei olygu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Labordai Arloesi Gofal Cymdeithasol #SCIL
Rydym yn gweithio gyda Chanolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia Cymru ym Mhrifysgol Bangor i sefydlu Labordai Arloesi Gofal Cymdeithasol. Mae’r rhain yn ddigwyddiadau sy’n dod â phobl ynghyd i geisio atebion newydd i broblemau gofal cymdeithasol. Gallant roi cyfle i glywed am dystiolaeth bresennol, ymchwil gyfredol ac arloesiadau a dechrau trafodaethau rhwng pobl â phrofiad byw, ymarferwyr ac ymchwilwyr. Y nod yw rhannu syniadau a heriau, a allai arwain at atebion neu flaenoriaethau ar gyfer ymchwil yn y dyfodol.
Menter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI)
Er nad oes gan hyn ‘labordy’ yn yr enw mae’r cysyniad yn debyg – mae’n ymwneud â gweithio gyda busnesau i ddod o hyd i atebion arloesol i fynd i’r afael ag anghenion nas diwallwyd ym maes iechyd a gofal. Er enghraifft, yn nyddiau cynnar y pandemig Covid, bu SBRI yn gweithio gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar her i leihau’r amser i lanhau cerbydau’n drylwyr a’u cael yn ôl ar y ffordd.
Hac Iechyd Cymraeg
Digwyddiad yw Hac Iechyd Cymru sy’n dod â gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol ynghyd â chwmnïau digidol, technoleg a data i ddatrys heriau o bob rhan o’r system iechyd a gofal yng Nghymru. Cynhaliwyd Hac Iechyd Rhithwir, mewn cydweithrediad rhwng BIPBC, Comisiwn Bevan ac M-SPARC ar 14 Mai a 20 Mai 2020. Roedd yr enillwyr yn cynnwys prosiect i ddatblygu cymorth cyfathrebu amrediad byr i’w ddefnyddio wrth wisgo Offer Amddiffyn Personol (PPE) a phrosiect ‘Masgiau Clir ar gyfer Cyfathrebu’ i edrych ar ddylunio PPE ar gyfer cleifion â nam ar eu clyw.
Yn gryno
Mae gan lawer o bobl ddiddordeb mewn arloesi i ddatrys heriau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Gall y rhain fod yn ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol, pobl sy’n defnyddio gwasanaethau, busnesau sy’n datblygu technolegau newydd, ymchwilwyr mewn prifysgolion ym mhob math o wahanol feysydd neu sefydliadau trydydd sector sy’n treialu ffyrdd newydd o weithio.
Os ydych chi’n wynebu her benodol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, cysylltwch â ni a byddwn yn ceisio’ch cysylltu chi â’r bobl a all helpu. Ac os ydym wedi colli unrhyw ddulliau arbrofol eraill ar ffurf labordy iechyd a gofal cymdeithasol, rhowch wybod i ni.
Amdanom ni
Nod yr hwb yw cydlynu gweithgaredd ymchwil, arloesi a gwella yng Ngogledd Cymru ynghylch sut y gall gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol weithio gyda’i gilydd yn well. Mae’n rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn Cymru Iachach i sefydlu rhwydwaith o hybiau a gydlynir yn genedlaethol i lywio modelau integredig newydd o iechyd a gofal cymdeithasol.