Mae’r proffiliau yma yn cynnwys gwybodaeth ystadegol ar gyfer ardaloedd clwstwr gofal sylfaenol yng Ngogledd Cymru. Cyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2024 ac maent yn diweddaru rhifyn blaenorol Awst 2023.
Maen nhw’n darparu gwybodaeth am yr amgylchedd cymdeithasol a chorfforol ehangach a all effeithio ar iechyd a lles. Mae hyn yn cynnwys data ar gyfer:
- nodweddion poblogaeth
- dangosyddion iechyd
- tai a threfniadau byw
- diogelwch cymunedol
- economi a chyflogaeth
- incwm a budd-daliadau
- amddifadedd
Sylwer: Defnyddir ffigurau poblogaeth 2022 i gyfrifo cyfraddau trosedd, cyfraddau budd-daliadau yn ôl oedran a chyfraddau tlodi plant. Mae hyn yn golygu, ar gyfer y mesurau hyn, y bydd cyfraddau a chanrannau ar gyfer Gogledd Cymru, Cymru, Lloegr a Chymru, a Phrydain Fawr yn wahanol i’r rhai ym mhroffiliau lefel awdurdodau lleol 2024 a gyhoeddwyd hefyd ym mis Rhagfyr 2024.
Mae’r proffiliau hefyd yn cynnwys crynodeb o negeseuon allweddol ar gyfer clystyrau gofal sylfaenol o’r Asesiad Anghenion Poblogaeth.
Mae’r proffiliau ar hyn o bryd yn cael eu hailddatblygu ac ehangu. Byddant yn cael eu diweddaru i adlewyrchu data newydd a ddaw i law ac i roi sylwebaeth ar eu cynnwys.
Gallwn ddarparu proffiliau ardal yn cynnwys y rhan fwyaf o’r data hwn ar gyfer ardaloedd eraill, gan gynnwys unrhyw ardaloedd bach y gellir eu datblygu o ddaearyddiaeth ystadegol yr ardal cynnyrch ehangach haen is.
Mae fersiynau hygyrch o’r proffiliau ar gael ar gais.
Gallwch hefyd gysylltu â ni os oes angen ystadegau manylach neu gymorth gyda dadansoddi. A gallwch roi gwybod i ni os oes unrhyw wybodaeth ystadegol arall rydych yn credu y byddai’n ddefnyddiol ei chynnig ar y wefan hon.
Tudalennau cysylltiedig
Proffiliau ystadegol ar gyfer awdurdodau unedol Gogledd Cymru
Mae’r proffiliau pedair tudalen yma yn cynnwys gwybodaeth ystadegol ar gyfer ardaloedd awdurdodau unedol, byrddau iechyd lleol ac ardaloedd byrddau gwasanaethau cyhoeddus yng Ngogledd Cymru.
Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru
Cysylltwch â ni
Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol Gogledd Cymru
Ebost: hcargc@sirddinbych.gov.uk
Ffôn: 01824 712432