Mae’r proffiliau pedair tudalen yma yn cynnwys gwybodaeth ystadegol ar gyfer ardaloedd awdurdodau unedol, byrddau iechyd lleol ac ardaloedd byrddau gwasanaethau cyhoeddus yng Ngogledd Cymru. Cyhoeddwyd ym mis Mai 2023 Hydref 2022 ac maent yn diweddaru rhifyn blaenorol Hydref 2022 (gan gynnwys diweddariadau o Gyfrifiad 2021 a ryddhawyd yn ddiweddar).
Maen nhw’n darparu gwybodaeth am yr amgylchedd cymdeithasol a chorfforol ehangach a all effeithio ar iechyd a lles. Mae hyn yn cynnwys data ar gyfer:
- nodweddion poblogaeth
- dangosyddion iechyd
- tai a threfnidiadau byw
- diogelwch cymunedol
- economi a chyflogaeth
- incwm a budd-daliadau
- amddifadedd
Mae’r proffiliau ar hyn o bryd yn cael eu hailddatblygu ac ehangu. Byddant yn cael eu diweddaru drwy gydol 2023 a 2024 i adlewyrchu’r data newydd fydd yn dod i law wrth i ganlyniadau Cyfrifiad 2021 gael eu cyhoeddi.
Mae fersiynau hygyrch o’r proffiliau ar gael ar gais.
Gallwn ddarparu proffiliau ardal yn cynnwys y rhan fwyaf o’r data hwn ar gyfer ardaloedd eraill, gan gynnwys unrhyw ardaloedd bach y gellir eu datblygu o ddaearyddiaeth ystadegol yr ardal cynnyrch ehangach haen is.
Gallwch hefyd gysylltu â ni os oes angen ystadegau manylach neu gymorth gyda dadansoddi. A gallwch roi wybod i ni os oes unrhyw wybodaeth ystadegol arall rydych yn credu y byddai’n ddefnyddiol ei chynnig ar y wefan hon.
Tudalennau cysylltiedig
Proffiliau ystadegol ar gyfer clwstwr gofal sylfaenol Gogledd Cymru
Gwybodaeth ystadegol ar gyfer ardaloedd clwstwr gofal sylfaenol yng Ngogledd Cymru. Mae’r proffiliau hefyd yn cynnwys crynodeb o negeseuon allweddol ar gyfer clystyrau gofal sylfaenol o’r Asesiad Anghenion Poblogaeth.
Cysylltwch â ni
Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol Gogledd Cymru
Ebost: hcargc@sirddinbych.gov.uk
Ffôn: 01824 712432